MA Addysg
Campws Caerfyrddin

Yn y rhaglen newydd ac arloesol hon mae nodweddion sydd â chryn debygrwydd â'r radd Meistr mewn Dysgu ac Addysgu (MTL) yn Lloegr ac fe’i hanelir at ANG yn ogystal ag at weithwyr proffesiynol mwy profiadol. Dylunnir y cynllun ar gyfer myfyrwyr sydd angen rhaglen hyblyg o astudio ôl-raddedig sy’n gysylltiedig â’u gwaith o fewn cyd-destun addysgol. Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr feithrin dealltwriaeth feirniadol a dadansoddol ar radd uwch o’u harfer eu hunain, yn ogystal â dod ag elfen o ffresni i’w gwybodaeth a dealltwriaeth o’u pwnc.
Nodwedd allweddol yn y rhaglen yw y ffordd y bydd yn achredu Dysgu Blaenorol (APL) athrawon sydd wedi ennill credydau lefel M/lefel 7 fel rhan o’u rhaglenni HAGA, Datblygiad Proffesiynol Cynnar (DPC) neu Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).
Mae gan Goleg Prifysgol y Drindod draddodiad hir o Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (HAGA) ac o fewn arolwg Estyn 2007-8 dyfarnwyd y graddau gorau yng Nghymru i ddarpariaeth HAGA’r brifysgol. Mae’r MA mewn Addysg yn manteisio ar y cryfder hwn yn ogystal ag ar ei harbenigedd mewn darpariaeth ddwyieithog a gydnabyddir yn genedlaethol.
Y Modylau
Modylau Blasu (15 credyd yr un)
Yn bennaf anelir y modylau hyn at ymarferwyr a fydd efallai am brofi blas ar waith ar lefel Meistr cyn cofrestru ar y brif raglen MA Addysg.
- Adfyfyrio ar Sefydlu
- Sgiliau Mentora Hanfodol
- Cyflwyniad i Addysg Ddwyieithog
- Dysgu Ail Iaith
- Meddwl am Addysg Grefyddol*
- Addysg Grefyddol Disgyblion ag Anghenion Addysgol Ychwanegol*
*anelir y modylau hyn at arbenigwyr AG. Mae modylau blasu ychwanegol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd.
Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau un neu fwy o’r modylau uchod yn llwyddiannus yn cael eu hystyried trwy drefn APEL ar gyfer achredu priodol wrth symud ymlaen i Ran 1.
Modylau Rhan 1 (30 credyd yr un)
- Dulliau Ymchwil
- Dysgu ac Addysgu
- Dysgu a gyfoethogir gan Dechnoleg
- Gwledydd sy’n Dysgu: Dadleuon Cyfoes mewn Addysg
Rhan 2 (60 credyd)
- Traethawd Hir
Bydd angen i fyfyrwyr ennill 120 credyd yn Rhan 1 (efallai y gellir ennill rhai trwy APEL) cyn y gellir eu hystyried ar gyfer symud ymlaen i Ran 2.
Bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau’r ddwy ran (180 credyd) i ennill gradd Meistr mewn Addysg.
Sut byddaf i’n astudio?
Cyflwynir y rhaglen yn hyblyg er mwyn galluogi athrawon llawn amser i fynychu dosbarthiadau yn y brifysgol. Bydd hyn yn cynnwys sesiynau gyda’r hwyr ac ar y penwythnos. Disgwylir i fyfyrwyr fanteisio ar Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) y Brifysgol i gefnogi’u hastudiaethau, a byddant yn ymgymryd ag astudio cyfeiriol gartref ac yn eu lleoliad addysg.
Sut byddaf i’n cael fy asesu?
Asesir trwy ystod o aseiniadau a gallai gynnwys (yn ddibynnol ar y modylau a astudir) ymchwil yn yr ystafell ddosbarth, dyddlyfr adfyfyriol, tasg ar-lein, cyflwyniad seminar / cynhadledd 30 munud a thraethawd hir.
Pryd bydd y cwrs yn cychwyn?
Cynigir y cwrs am y tro cyntaf yn rhan olaf mis Medi 2009 ond efallai y bydd myfyrwyr am ymuno â’r rhaglen ym mis Ionawr neu ar ôl y Pasg. Fel arfer cynigir un modwl yn ystod pob tymor ysgol ac efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno dilyn un neu fwy o fodylau bob blwyddyn.
Beth yw hyd y cwrs?
Fel arfer bydd myfyrwyr yn cymryd hyd at 4 blynedd i gwblhau'r radd.
Beth os na fyddaf yn cwblhau’r radd?
Gallai myfyrwyr nad ydynt yn cwblhau'r cwrs am ba reswm bynnag fod yn gymwys ar gyfer y dyfarniadau dilynol gan Brifysgol Cymru, yn ddibynnol ar nifer y credydau a enillir:
Tystysgrif Ôl-raddedig – (60 credyd)
Diploma Ôl-raddedig – (120 credyd)
Beth yw’r gofynion mynediad?
Fel arfer disgwylir i fyfyrwyr feddu ar radd gyntaf yng nghategorïau 2:1 neu ddosbarth cyntaf. Fodd bynnag, mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sy’n meddu ar gymhwyster proffesiynol cyfwerth neu brofiad proffesiynol perthnasol i wneud cais.
Gan fod y cwrs yn canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu ac y bydd yn gofyn i fyfyrwyr dynnu ar eu profiadau addysgu’u hun, bydd myfyrwyr fel arfer mewn swydd sy’n eu caniatáu i adfyfyrio ar eu strategaethau dysgu ac addysgu’u hun ac i ymgymryd ag ymchwil gweithredu o fewn eu cyd-destun penodol. Er enghraifft, gallai myfyriwr fod yn ANG sy’n ymgymryd â rhaglen Sefydlu neu â rhaglen o Ddatblygiad Proffesiynol Cynnar, yn athro cynradd, uwchradd neu addysg bellach profiadol neu’n weithiwr proffesiynol sy’n addysgu am ran o’i amser.
Awydd ymgeisio?
Mae Coleg Prifysgol y Drindod wedi darparu hyfforddiant ac addysg athrawon o safon uchel er 1848, ac ef oedd y darparwr cynharaf yng Nghymru. Mae profiad helaeth gan Ysgol HAGA o gydweithio gydag athrawon wrth eu gwaith, ac mae’n ymwybodol y byddai llawer o athrawon ond am ddilyn cwrs o’r natur hon petai’n canolbwyntio ar y broses ddysgu ac addysgu ac yn gwneud gwahaniaeth i’w hymarfer eu hun yn y dosbarth ac i ymarfer eu dysgwyr.
O fis Medi 2009, bydd Ysgol HAGA yn cydweithio ag AALlau i gynnig nifer o fodylau blasu ochr yn ochr â gweithgareddau DPP arferol megis rhaglenni sefydlu, hyfforddi mentoriaid a chyrsiau ail iaith. Dylunnir y modylau blasu i ennyn eich diddordeb – i geisio sicrhau ichi gael eich achredu am rywfaint o’r gwaith rydych yn ei wneud beth bynnag – ac i’ch helpu ar y ffordd i ennill cymhwyster Meistr.
Sut mae gwneud cais?
Os hoffech wneud cais neu nodi diddordeb er mwyn inni allu rhoi gwybod ichi am ddatblygiad ein rhaglen, cysylltwch â'r Gofrestrfa am ffurflen gais ar 01267 676767 neu cofrestrfa@ydrindoddewisant.ac.uk

