BA Yr Actor a'r Celfyddydau
Cynnwys y Cwrs
Bwriad y radd hon yw meithrin creadigrwydd actorion crefftus, disgybledig ac ymroddedig gyda'r adnoddau angenrheidiol i weithio o fewn sawl maes a chyfrwng.
Mae'n graddau i gyd yn dilyn strwythur tebyg, gan gychwyn gyda blwyddyn gyntaf sy'n cynnig ystod eang o fodylau a phrofiadau addysgol amrywiol.
Yna yn yr ail, mae'r gwaith yn mynd yn gynyddol bwnc benodol, ac yna yn y drydedd flwyddyn ceir pwyslais cryf ar waith ymarferol a pherfformiadau cyhoeddus.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Côd UCAS
W411
Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser
Gofynion Derbyn
Gweler cyflwyniad y Prosbectws.
Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eu priodoldeb i'r rhaglen. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg.
Cyfleoedd Gyrfa
Dylai pob ymgeisydd gydnabod bod y byd perfformio proffesiynol yn faes cystadleuol dros ben, ac mai nifer bychan o bobl - mewn gwirionedd - sy'n llwyddo i wneud bywoliaeth fel actorion a pherfformwyr llawn amser.
Fodd bynnag, mae yna alw cyson gan gyflogwyr am bobl wybodus sydd â thalentau creadigol disglair ac amrywiol. Am y rheswm hwnnw, cynlluniwyd y radd hon mewn modd sy'n datblygu sgiliau perfformio unigolion, tra ar yr un pryd yn datblygu ystod o sgiliau academaidd a sgiliau trosglwyddadwy eraill allai gadw drysau gyrfaol eraill ar agor.
Mae'r cysylltiadau sydd gan yr Ysgol â'r diwydiannau perfformio a chyfryngol wedi arwain at gyflogaeth i nifer fawr o'n graddedigion, mae eraill wedi mynd yn eu blaenau i weithio mewn meysydd ehangach gan gynnwys byd addysg a gwasanaethau cyhoeddus.
Adran
Ysgol y Celfyddydau PerfformioCampws
Campws CaerfyrddinModylau Enghreifftiol
- Gwaith llais ac acenion
- Shakespeare ar y Llwyfan Cyfoes
- Dadansoddi Testun
- Darlledu o Stiwdio
- Hyfforddiant Lleisiol
- Sgriptio
- Ffilmio
- Cynyrchiadau Theatr
- Prosiect Personol
Nodweddion Allweddol
- Cynyrchiadau dan gyfarwyddyd actorion a chyfarwyddwyr profiadol
- Cyfle i feithrin cysylltiad uniongyrchol â chyflogwyr
- Sesiynau Hyfforddiant Unigol
- Cyngherddau a pherfformiadau gan fyfyrwyr
- Ymweliadau
- Siaradwyr gwadd
- Gweithdai
- Sgiliau trosglwyddadwy helaeth
- Cyfle i astudio dramor am gyfnod ar raglen gyfnewid rhyngwladol yr Ysgol
- Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
- Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chyfle i'w harddangos
- Cyfle i herio ac ymestyn galluoedd academaidd
- Awyrgylch Gymreig a phrofiad o fywyd unigryw y Drindod
- Cyfle i feithrin sgiliau galwedigaethol holl bwysig
- Dewisiadau penodol, addas i ddoniau a diddordeb personol yr unigolyn
- Cysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiannau perfformio a chyfryngol
- Gweithgareddau celfyddydol bywiog a chyson ar y campws
Pam astudio yn y Brifysgol hon?
- Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
- Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i’w harddangos
- Cyfle i ymestyn galluoedd academaidd
- Tîm sefydlog o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
- Awyrgylch Gymreig a phrofiad o fywyd unigryw Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
- Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol holl bwysig
- Llwybrau penodol, addas i ddoniau personol yr unigolyn
- Cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau perfformio a chyfryngol
- Gweithgareddau celfyddydol bywiog a chyson ar y campws
Manylebau Rhaglen
Amcanion addysgol y rhaglen yw i:
- meithrin myfyrwyr a chanddynt ddealltwriaeth o sgiliau, prosesau a chyfryngau perfformio yr actor;
- datblygu sgiliau perfformio y myfyrwyr;
- datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyrwyr o’r traddodiad theatrig a pherfformio;
- cyflogadwyedd y myfyrwyr a’u paratoi at ofynion y diwydiannau perfformio proffesiynol.
Deilliannau’r Rhaglen
Gwybodaeth a Dirnadaeth Bynciol
Dylai myfyrwyr graddedig allu dangos gwybodaeth a dirnadaeth am y canlynol:
- chyfrwng ac adnoddau mynegiant corfforol a lleisiol sylfaenol y perfformiwr;
- phrosesau sydd ynghlwm wrth waith creadigol a dyfeisio ystod o destunau ac ymarferwyr ym meysydd drama, cerddoriaeth a dawns;
- natur a gofynion gwahanol gyfryngau neu lwyfannau perfformio gofynion a phrosesau ymarfer a chynhyrchu perfformiadau;
- hanes y traddodiad theatrig a’r theatr gerddorol;
- hanes a datblygiad y ddrama o fewn cyd-destun Cymreig.
Sgiliau Pwnc a Sgiliau Eraill
Cynlluniwyd y rhaglen fel bod modd rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr i ddatblygu ac arddangos sgiliau ymarferol fel y gallant:
- ddadansoddi a dehongli testunau, genre s a hanes drama, cerddoriaeth neu ddawns;
- gyflawni gwaith ymchwil angenrheidiol (annibynnol ac mewn grŵp) i gyfoethogi eu profiadau creadigol a’u dysg;
- wireddu sgriptiau, testunau neu sgôr (parod neu ddyfeisiedig) mewn perfformiad ymarferol;
- wneud defnydd priodol o sgiliau lleisiol a chorfforol mewn perfformiad;
- gyfrannu at gynhyrchu perfformiadau a/neu ffilm a/neu deledu a/neu radio yn unol â’r strwythurau a’r dulliau gweithio priodol, e.e. trwy gyfarwyddo, coreograffi, dramayddiaeth, rheoli llwyfan, senograffi, cynhyrchu sain a golau, golygu, hyrwyddo, gweinyddu ac ariannu.
Sgiliau Cyffredinol a Gradd
Cynlluniwyd y radd fel bod modd i raddedigion ddatblygu ystod o fedrau cyffredinol a sgiliau trosglwyddadwy fel y gallant arddangos:
- sgiliau deallusol, gan gynnwys agweddau beirniadol, dadansoddol neu werthusol;
- sgiliau creadigol, gan gynnwys ymdrin ac ymateb yn fentrus i syniadau a symbyliadau ar lefel deallusol a/neu gorfforol/lleisiol;
- sgiliau cyfathrebu - llafar, ysgrifenedig, gweledol neu berfformiadol;
- gallu i weithio tuag at ddatrys anawsterau (boed yn annibynnol neu o fewn grŵp) er mwyn cyrraedd amcanion creadigol gosodedig;
- rheolaeth o feichiau gwaith personol a chyrraedd targedau amser penodedig;
- sgiliau technoleg gwybodaeth ynghyd â hyfedredd wrth ymdrin â rhai offer a chyfryngau technegol.

