BA Y Cyfryngau Creadigol

Cynnwys y Cwrs

Mae grym a dylanwad y cyfryngau cyfoes yn parhau i gael effaith aruthrol ar ein bywydau o ddydd i ddydd. Yn sgil datblygiadau’r chwyldro digidol, mae sgiliau arbenigol a llythrennedd digidol bellach yn ofynnol gan gyflogwyr ar draws ystod eang o feysydd proffesiynol. Mae’r maes datblygol yma felly, ynghyd â’r cyfleon i ddatblygu sgiliau a gwireddu syniadau creadigol a chyffrous, yn rhan anhepgor o apêl y pwnc fel maes astudiaeth. I unrhyw ddarpar fyfyriwr sydd am ddatblygu ei syniadau creadigol neu sydd â diddordeb i ddatblygu sgiliau cynhyrchu ar draws sawl cyfrwng, fe ddylai’r radd yma apelio’n fawr.

O safbwynt creadigrwydd, mae’r maes digidol yn un sy’n datblygu’n gyson ac yn gyflym, a diben y rhaglen yma yw datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyfredol o rôl a photensial y cyfryngau hyn. Wrth astudio arferion a chynnyrch cyfredol ar draws meysydd radio, teledu, ffilm a’r rhyngrwyd, rhoddir pwyslais amlwg ar feithrin a datblygu creadigrwydd yr unigolyn ynghyd ag ymwybyddiaeth o arferion, safonau a’r gwerthoedd cynhyrchu uchaf.

Mae pwyslais yr Ysgol yn benodol felly ar ddatblygu a hyfforddi ‘gwneuthurwyr’. Hynny yw, ymarferwyr sydd â’r gallu a’r parodrwydd i fentro’n greadigol drwy greu, datblygu ac arddangos eu gwaith ar draws sawl math o lwyfan, cyfrwng a genre. Rhoddir pwyslais o fewn yr Ysgol ar y grefft elfennol o adrodd neu drosglwyddo storïau, boed trwy gyfrwng theatr, ffilm, radio neu deledu.

Y bwriad felly wrth ddatblygu a hogi sgiliau ymarferol a thechnegol yw rhyddhau yr unigolyn i ddatblygu eu syniadau creadigol eu hunain a’u galluogi i’w gwireddu ar draws ystod o gyfryngau. Yn ogystal â meithrin doniau creadigol ac ymarferol, y nod yw cyflwyno dealltwriaeth gadarn o ofynion ac arferion y diwydiannau cyfryngol cyfredol.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
P306

Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eu priodoldeb i'r rhaglen. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg

Cyfleoedd Gyrfa

Bwriad y cwrs yw creu unigolion creadigol sy'n meddu ar sgiliau technolegol cyfredol ar gyfer rhychwant eang o swyddi o fewn y cyfryngau a thu hwnt. Rhagwelir y bydd sgiliau llythrennedd mewn oes ddigidol yn ffactor dylanwadol mewn ystod eang o feysydd a chyflogaeth yn y dyfodol.

Yn ogystal â pharatoi ffordd tuag at waith yn y diwydiannau cyfryngol, bydd y cwrs yn cyflwyno agweddau ar fentergarwch a rheoli cyllid er mwyn rhoi yr hyder i fyfyrwyr greu a datblygu eu cyfleoedd gyrfäol eu hunain. Gall hefyd arwain at lwybr astudiaeth neu hyfforddiant pellach mewn meysydd perthnasol. Yn sgil natur alwedigaethol y radd a'r cysylltiad cyson â'r diwydiannau cyfryngol, mae cyfran uchel o’n graddedigion wedi canfod swyddi ym meysydd teledu, radio, theatr, gwasanaethau cyhoeddus ac addysg.

Yn unol ag ethos yr Ysgol, caiff sgiliau trosglwyddadwy buddiol eu meithrin er mwyn hybu eich cyflogadwyedd mewn meysydd ehangach yn ogystal.

Adran

Ysgol y Celfyddydau Perfformio

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Sgiliau cyflwyno a chyfweld
  • Hyfforddiant camera, sain a golygu
  • Cynhyrchu radio
  • Cynhyrchu ffilm
  • Gohebu digidol
  • Hanes a datblygiad y cyfryngau
  • Creu rhaglenni dogfen
  • Y cyfryngau ar blatfformau amrywiol
  • Dadansoddi delweddau
  • Natur cynulleidfaoedd

Nodweddion Allweddol

  • Darlithwyr gwadd o'r diwydiant yn cyfrannu'n helaeth i'r modylau
  • Hyfforddiant mewn grwpiau bychain
  • Cyfle i ennill profiad yn y cyfryngau trwy gysylltiadau'r Ysgol
  • Gweithdai a chyfle i arddangos gwaith
  • Sgiliau trosglwyddadwy
  • Meithrin a datblygu creadigrwydd a dyfeisgarwch yr unigolyn
  • Ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd ymarferol ac academaidd
  • Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i'w harddangos
  • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd ymarferol ac academaidd
  • Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i’w harddangos
  • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau perfformio a chyfryngol

Manylebau Rhaglen

Amcanion addysgol y rhaglen yw i:

  • ddatblygu sgiliau creadigol, ymarferol a thechnegol y myfyrwyr;
  • feithrin sgiliau dadansoddol a beirniadol y myfyrwyr, ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • sicrhau dealltwriaeth y myfyrwyr o hanes a datblygiad cyfryngau amrywiol;
  • hybu cyflogadwyaeth a hyfforddi myfyrwyr ar gyfer y gweithle.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a Dirnadaeth Bynciol

Dylai myfyrwyr graddedig allu dangos gwybodaeth a dirnadaeth am y canlynol:

  • hanes a datblygiad sefydliadau cyfryngol o fewn cymdeithas;
  • twf y cyfryngau fel ffurfiau diwylliannol amrywiol;
  • gofynion amrywiol y broses gynhyrchu;
  • ysgrifennu ar gyfer cyfryngau amrywiol;
  • ffynonellau ariannu’r diwydiannau creadigol;
  • cyfraniad arloeswyr at ddatblygiad cyfryngau a genres amrywiol.

Sgiliau Ymarferol

Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau ymarferol, megis:

  • cwblhau aseiniad ymarferol fel unigolyn;
  • gweithio o fewn grŵp i greu cynhyrchiad gorffenedig;
  • creu Sgriptiau gwreiddiol a’u gwireddu yn ymarferol;
  • gweithredu amrediad o offer technegol;
  • defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • cynnal ymchwil personol er mwyn casglu, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth.

Sgiliau Cyffredinol a Gradd

Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau cyffredinol a gradd, megis:

  • ymateb mewn modd arloesol ac adeiladol i gyfleoedd creadigol;
  • cyfathrebu syniadau boed hynny ar ffurf llafar, gweledol, clywedol neu ysgrifenedig;
  • cofnodi a dadansoddi proses eu hymarfer creadigol;
  • cydweithio’n effeithiol o fewn grwp;
  • gosod amcanion a’u cyrraedd trwy reoli eu hunain ac eraill;

gwerthuso eu gwaith eu hunain ac eraill mewn modd effeithlon.