BA Y Celfyddydau Perfformio

Cynnwys y Cwrs

Bwriad y radd hon yw meithrin creadigrwydd perfformwyr crefftus, disgybledig ac ymroddedig gyda'r adnoddau a'r sgiliau i weithio o fewn sawl maes a chyfrwng. Mae gogwydd ymarferol a galwedigaethol pendant i'r cwrs ynghyd â datblygu eich sgiliau academaidd a'ch sgiliau trosglwyddadwy. Felly, yn ogystal â meithrin eich sgiliau perfformio, a sgiliau aml-gyfrwng, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol ynghyd â sgiliau cyffredinol buddiol a allai hybu eich cyfleon gyrfäol mewn meysydd ehangach na'r byd adloniant yn unig.

Mae'n graddau i gyd yn dilyn strwythur tebyg, gan gychwyn gyda blwyddyn gyntaf sy'n cynnig ystod eang o fodylau a phrofiadau addysgol amrywiol. Yna yn yr ail, mae'r gwaith yn mynd yn gynyddol bwnc benodol, ac yna yn y drydedd flwyddyn ceir pwyslais cryf ar waith ymarferol a pherfformiadau cyhoeddus.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
W400

Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eu priodoldeb i'r rhaglen. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg.

Cyfleoedd Gyrfa

Dylai pob ymgeisydd gydnabod bod y byd perfformio proffesiynol yn faes cystadleuol dros ben, ac mai nifer bychan o bobl - mewn gwirionedd - sy'n llwyddo i wneud bywoliaeth fel actorion a pherfformwyr llawn amser. Fodd bynnag, mae yna alw cyson gan gyflogwyr am bobl wybodus sydd â thalentau creadigol disglair ac amrywiol. Am y rheswm hwnnw, cynlluniwyd y radd hon mewn modd sy'n datblygu sgiliau perfformio unigolion, tra ar yr un pryd yn datblygu ystod o sgiliau academaidd a sgiliau trosglwyddadwy eraill allai gadw drysau gyrfaol eraill ar agor.

Mae'r cysylltiadau sydd gan yr Ysgol â'r diwydiannau perfformio a chyfryngol wedi arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth i nifer o'n graddedigion, mae eraill wedi mynd yn eu blaenau i weithio mewn meysydd ehangach gan gynnwys byd addysg a gwasanaethau cyhoeddus.

Adran

Ysgol y Celfyddydau Perfformio

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Dawns a Choreograffi
  • Y Theatr Gerddorol
  • Sgriptio
  • Gwersi canu
  • Darlledu o Stiwdio
  • Shakespeare ar y Llwyfan Cyfoes
  • Prosiect Personol
  • Cynyrchiadau

Nodweddion Allweddol

  • Cynyrchiadau dan gyfarwyddyd cyfarwyddwyr ac actorion profiadol
  • Cysylltiad uniongyrchol â chwmnïau o fewn y diwydiant
  • Sesiynau Hyfforddiant Unigol
  • Ymweliadau
  • Siaradwyr Gwadd
  • Gweithdai
  • Sgiliau trosglwyddadwy helaeth
  • Cyngherddau a Pherfformiadau allgyrsiol
  • Cyfle i astudio dramor ar raglen gyfnewid yr Ysgol
  • Cwrs sy'n ceisio datblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn sgiliau a herio galluoedd academaidd
  • Awyrgylch Cymreig a phrofiad o fywyd unigryw Y Drindod Dewi Sant
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chyfle i'w harddangos
  • Cyfle i feithrin sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiannau perfformio a chyfryngol

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i anghenion pob unigolyn er mwyn datblygu eu potensial yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd academaidd
  • Tîm o addysgwyr a chyd-fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Cymreig a phrofiad o fywyd unigryw Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i’w harddangos
  • Cyfle i feithrin sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau perfformio a chyfryngol
  • Gweithgareddau celfyddydol bywiog a chyson ar y campws

Manylebau Rhaglen

Amcanion addysgol y rhaglen yw i:

  • meithrin myfyrwyr a chanddynt ddealltwriaeth o sgiliau, prosesau a chyfryngau perfformio;
  • datblygu sgiliau perfformio y myfyrwyr;
  • datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyrwyr o’r traddodiad theatrig a pherfformio;
  • hybu cyflogadwyaeth y myfyrwyr a’u paratoi at ofynion y diwydiannau perfformio proffesiynol.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a Dirnadaeth Bynciol

Dylai myfyrwyr graddedig allu dangos peth gwybodaeth a dirnadaeth ynglŷn â:

  • chyfrwng ac adnoddau mynegiant corfforol a lleisiol sylfaenol y perfformiwr;
  • phrosesau sydd ynghlwm wrth waith creadigol a dyfeisio;
  • ystod o destunau ac ymarferwyr ym meysydd drama, cerddoriaeth a dawns;
  • natur a gofynion gwahanol gyfryngau neu lwyfannau perfformio;
  • gofynion a phrosesau ymarfer a chynhyrchu perfformiadau;
  • hanes y traddodiad theatrig a’r theatr gerddorol;
  • hanes a datblygiad y ddrama o fewn cyd-destun Cymreig.

Sgiliau Pwnc a Sgiliau Eraill

  • ddadansoddi a dehongli testunau, genre s a hanes drama, cerddoriaeth neu ddawns;
  • gyflawni gwaith ymchwil angenrheidiol (annibynnol ac mewn grŵp) i gyfoethogi eu
  • profiadau creadigol a’u dysg;
  • wireddu sgriptiau, testunau neu sgôr (parod neu ddyfeisiedig) mewn perfformiad ymarferol;
  • wneud defnydd priodol o sgiliau lleisiol a chorfforol mewn perfformiad;
  • gyfrannu at gynhyrchu perfformiadau a/neu ffilm a/neu deledu a/neu radio yn unol â’r strwythurau a’r dulliau gweithio priodol, e.e. trwy gyfarwyddo, coreograffi, dramayddiaeth, rheoli llwyfan, senograffi, cynhyrchu sain a golau, golygu, hyrwyddo, gweinyddu ac ariannu.

Sgiliau Cyffredinol a Gradd

Cynlluniwyd y radd fel bod modd i raddedigion ddatblygu ystod o fedrau cyffredinol a sgiliau trosglwyddadwy fel y gallant arddangos:

  • sgiliau deallusol, gan gynnwys agweddau beirniadol, dadansoddol neu werthusol;
  • sgiliau creadigol, gan gynnwys ymdrin ac ymateb yn fentrus i syniadau a symbyliadau ar lefel deallusol a/neu gorfforol/lleisiol;
  • sgiliau cyfathrebu - llafar, ysgrifenedig, gweledol neu berfformiadol;
  • gallu i weithio tuag at ddatrys anawsterau (boed yn annibynnol neu o fewn grŵp) er mwyn cyrraedd amcanion creadigol gosodedig;
  • rheolaeth o feichiau gwaith personol a chyrraedd targedau amser penodedig;
  • sgiliau technoleg gwybodaeth ynghyd â hyfedredd wrth ymdrin â rhai offer a chyfryngau technegol.