BA Rheolaeth Busnes *

Cynnwys y Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cynnig arweiniad delfrydol i fyd busnes sy'n newid yn gyflym. Fe'i cynlluniwyd i roi ichi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i lwyddo yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector.

Mae'r BA Rheolaeth Busnes yn gwrs amrywiol sy'n cynnwys yr holl elfennau diweddaraf. Yn ogystal â chynnig y prif feysydd astudio traddodiadol fel marchnata, rheoli adnoddau dynol a chyllid, mae'r cwrs yn trafod materion ffres, cyfoes a chyfredol fel cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, e-fasnach, entrepreneuriaeth a menter.

Mae modylau craidd y flwyddyn gyntaf yn rhoi dealltwriaeth gadarn ichi o'r materion allweddol, ac mae dewis o fodylau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn yn eich galluogi i roi sylw manylach i feysydd sydd o ddiddordeb arbennig ichi.

Cewch eich annog i:

  • Ddatblygu sgiliau gwneud penderfyniadau a datrys problemau i'ch helpu i ddadansoddi a chynhyrchu datrysiadau arloesol i broblemau busnes
  • Ehangu ac adeiladu ar eich gwybodaeth o raglenni TG i'w defnyddio mewn cyd-destun busnes
  • Datblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sydd o bwys mawr i lawer o gyflogwyr, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol effeithiol

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
N200

Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.

Gofynion Derbyn

Fe’ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Cyfleoedd Gyrfa

  • Adnoddau Dynol
  • Marchnata a Gwerthu
  • Gwasanaethau Ariannol
  • Rheolaeth yn y sector cyhoeddus, preifat neu'r trydydd sector
  • Ymgynghoriaeth Busnes
  • Astudiaethau/ymchwil ôl-radd

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Amgylchedd Busnes
  • Datblygu Sgiliau TG
  • Rheoli Adnoddau Dynol
  • Marchnata
  • Rheolaeth Ariannol
  • Ymddygiad Sefydliadol
  • Cyd-destunau Rheolaeth Rhyngwladol
  • Rheolaeth Strategol

Nodweddion Allweddol

  • Defnydd o dechnoleg arloesol i gyfoethogi'r dysgu a'r addysgu
  • Cwrs amrywiol sy'n ymdrin â'r prif faterion busnes mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd-eang
  • Cyfleoedd cyfnewid yn Ewrop a'r Unol Daleithiau yn bosibl
  • Ffocws ymarferol
  • Cysylltiadau gyda busnesau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
  • Cydweithio gydag asiantaethau a chynlluniau sy'n ymwneud â datblygu syniadau menter a busnes
  • Gall Swyddog Profiad Gwaith drefnu cyfleoedd profiad gwaith gyda thâl a di-dâl i sicrhau eich bod yn gwbl gyfarwydd ag amgylchedd y gweithle

*I'w ddilysu