BA Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Cynnwys y Cwrs

Yn y blynyddoedd diwethaf daeth tri phwnc allweddol i'r amlwg yn y drafodaeth ynglyˆn â'r blaenoriaethau cenedlaethol sy'n effeithio ar addysg a datblygiad pobl ifanc: cynhwysiant cymdeithasol, dinasyddiaeth a'r gallu i gael swydd. Mae Gwaith Ieuenctid a Chymuned yn ganolog i unrhyw waith gyda phobl ifanc yn y tri maes hwn.

Mae'r cwrs yn cynnig cymhwyster proffesiynol sy'n seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd craidd gwaith ieuenctid. Mae'n ymchwilio i'r modd y gellir hwyluso a chefnogi twf pobl ifanc yn ogystal â datblygiad personol a chymdeithasol mewn amrywiaeth o feysydd anffurfiol. Mae'n adlewyrchu polisïau ac arferion presennol yn ymwneud ag ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n berthnasol i'r sector galwedigaethol, i gyflogwyr lleol a chenedlaethol ac i'r sectorau gwirfoddol.

Mae cyfnodau profiad gwaith yn ganolog i'r cwrs a hynny mewn lleoliadau gwaith ieuenctid statudol a gwirfoddol, a rhoddir sylfaen gadarn i'r rheiny trwy werthuso'n feirniadol y materion sy'n dylanwadu ar fywydau pobl ifanc, megis natur cymdeithas a chynhwysiant cymdeithasol, cymdeithaseg a seicoleg yr ifanc. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 800 awr o gyfnodau gwaith maes wedi'u hasesu yn ystod y rhaglen, yn ogystal ag ymgymryd â theithiau arsylwi i gefnogi modylau eraill. Cynigir y cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
L592

Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser; Rhan-amser a hyblyg ar gael

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd. Oherwydd yr ardystiad proffesiynol, mae'n rhaid i bob ymgeisydd gael o leiaf 100 awr o brofiad diweddar a pherthnasol o Waith Ieuenctid.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae'r cwrs yn cynnwys cymhwyster proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer y maes. Mae gweithwyr ieuenctid cymwys yn cael swyddi mewn amrywiaeth o leoliadau galwedigaethol megis gydag awdurdodau lleol, timau cyfiawnder ieuenctid, awdurdodau iechyd, adrannau hamdden a chelf a mudiadau'r sector gwirfoddol.

Adran

Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Astudiaethau Proffesiynol
  • Astudiaethau Rheolaeth
  • Arfer Gwaith Seiliedig
  • Trosiannau Glasoed a Gwaith Ieuenctid
  • Arfer, Damcaniaethau a Sgiliau
  • Dulliau Ymchwil ar gyfer y Gwasanaeth Ieuenctid
  • Gwaith Ieuenctid Datgysylltiedig ac Allestyn
  • Cynllunio a Chyflawni Gwaith Ieuenctid cyfrwng Cymraeg a dwyieithog
  • Sgiliau Goruchwylio a Chefnogi

Nodweddion Allweddol

  • Cwrs delfrydol ar gyfer gweithwyr ieuenctid a'r gymuned sy'n awyddus i gael cymhwyster proffesiynol israddedig, yn ogystal â'r rheiny a hoffai ddilyn gyrfa yn y maes hwn
  • Rhaglen a ardystiwyd yn broffesiynol, ac a gydnabuwyd yn rhyngwladol, ac a gyflwynir o fewn fframwaith academaidd cadarn
  • Cyflwynir y rhaglen gan dîm o weithwyr Ieuenctid a Chymuned brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog a chanddynt gymwysterau ac arbenigedd cydnabyddedig
  • Mae profiad gwaith mewn lleoliadau ieuenctid statudol a gwirfoddol yn elfen orfodol o'r cwrs
  • Ymweliadau astudio ag amrywiaeth o brosiectau a mentrau ieuenctid a chymunedol
  • Fe'i cyflwynir yn unol â nodau, gwerthoedd ac amcanion craidd Gwaith Ieuenctid
  • Gogwydd ymarferol a galwedigaethol
  • Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol yr unigolyn
  • Addysgir mewn grwpiau bychain mewn awyrgylch dysgu cefnogol

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Staff brwdfrydig, cefnogol a dwyieithog sydd â chymhwyster proffesiynol ym maes Gwaith Ieuenctid a Chymuned
  • Ffocws ymarferol a galwedigaethol y cwrs
  • Pwyslais ar ddatblygiad personol a chymdeithasol yr unigolyn
  • Cymorth ac arweiniad ardderchog ar yrfaoedd
  • Addysgir grwpiau bach mewn amgylchedd dysgu cefnogol

Manylebau Rhaglen

Prif amcanion addysgol y rhaglen yw galluogi myfyrwyr i:

  • wneud defnydd o ystod eang o adnoddau deallusol, safbwyntiau damcaniaethol a disgyblaethau academaidd i oleuo’u dealltwriaeth o faterion Gwaith Ieuenctid a’r cyd-destunau lle digwydd y rhain;
  • mynd i’r afael â gwybodaeth a dealltwriaeth eang a chytbwys o brif nodweddion Gwaith Ieuenctid mewn cyd-destunau yng Nghymru a thu hwnt;
  • datblygu ymarferwyr adfyfyriol/ymatblyg ac ymreolaethol sy’n gallu gweithredu theori ac arfer yn unol ag egwyddorion a gwerthoedd y Gwasanaeth Ieuenctid;
  • gwerthuso a dadansoddi’n feirniadol bolisi o’r gorffennol a’r presennol sydd wedi ac sy’n parhau i lywio a ffurfio arferion gwaith ieuenctid;
  • dod yn weithwyr ieuenctid sy’n gwbl ymwybodol o’r gofynion sy’n wynebu pobl ifainc mewn cymdeithas heddiw ac sy’n medru mynd i’r afael â’r gofynion hyn, yn cynnwys rhoi sylw i faterion mewn cymunedau gwledig a threfol, a dwyieithrwydd;
  • cydnabod, derbyn a deall gwerthoedd, diddordebau a safbwyntiau moesol pobl eraill ac ymgymryd ag arferion gwrth-ormesol;
  • ymgymryd ag ymchwil sylfaenol yn ymwneud â nodau a gwerthoedd rôl gweithwyr proffesiynol o fewn amrywiaeth o amgylcheddau dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol;
  • mabwysiadu sgiliau datrys problemau priodol sy’n eu galluogi i weithio’n effeithiol gyda’r broses addysgol a deilliannau ymyriadau gyda phobl ifainc.

Deilliannau’r Rhaglen

Bydd Deilliannau Dysgu’r modylau o fewn y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i arddangos:

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o’r Pwnc

1.  Gweithio mewn a chyda chymunedau

1.1  Y cyd-destun ar gyfer dysgu yn y gymuned:

  • cwmpas yr arfer proffesiynol o fewn y gymuned sydd y tu allan i’r dysgu ffurfiol a’r rhaglenni asesu cenedlaethol mewn ysgolion a cholegau (er yn gysylltiedig â nhw) a’r tu allan i arfer clinigol neu statudol mewn gofal iechyd a chymdeithasol (er yn gysylltiedig â nhw);
  • astudiaethau ar wasanaethau cyhoeddus megis y gwasanaethau ieuenctid, canolfannau addysg oedolion a chymunedol, Connexions, a mudiadau gwirfoddol a thrydydd sector (bydd y rhaglen hon hefyd yn rhoi sylw i’r Cyd-destun Cymreig);
  • damcaniaethau am y gymdeithas leol, cymdeithas sifil a chyfalaf cymdeithasol;
  • y berthynas rhwng pobl ifainc a chymunedau, a phobl â’i gilydd ar wahanol gyfnodau o’u bywyd mewn cymunedau.

1.2  Ymchwiliad o ystyr ac arfer cymuned:

  • y cysylltiadau rhwng sefydliad yn y gymuned ac ymwneud â materion cyfiawnder cymdeithasol.

1.3  Cymunedau, rhwydweithiau a chlymbleidiau: grym a grymuso

  • dadansoddiad o arferion sy’n herio cysylltiadau grym presennol megis y rhai sydd â’u gwreiddiau mewn rhywiaeth, hiliaeth a/neu arferion sy'n seiliedig ar freintiau dosbarth; ‘modelau meddygol’ o faterion cymdeithasol megis gwahaniaethu ar sail anabledd neu ormes yn seiliedig ar rywioldeb;
  • y cysylltiad a’r gwahaniaeth rhwng cysyniadau ymgysylltu a grymuso; arwyddocâd trafodaethau ar gynhwysiant ac allgáu; a’r cysylltiadau a’r tensiynau rhwng cysyniadau cymuned a hunaniaeth;
  • rhwydweithio fel agwedd arwyddocaol ar arfer; astudiaeth o glymbleidiau a threfnu eang, gwrthdaro ac arferion yn y gymuned; a swyddogaeth cynghreiriau.

 1.4     Cymuned, dinasyddiaeth a dysgu democrataidd:

  • y cwricwlwm dinasyddiaeth  mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach;
  • modelau democratiaeth a chyfranogiad mewn cymdeithas sifil all fod yn sail i arfer;
  • hawliau a chyfrifoldebau; democratiaeth gynrychiadol a chyfranogol;

1.5  Polisi cymdeithasol fel fframwaith ar gyfer ymyriadau:

  • dadansoddiad o ddylanwad trafodaethau polisi cymdeithasol ar ddatblygiad arfer proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymuned;
  • gwneud ieuenctid bygythiol a dan fygythiad, trwblus a thrafferthus yn wrthrych ymyrraeth gan bolisi cymdeithasol;
  • arwyddocâd presenoldeb neu absenoldeb dadansoddiad o gysylltiadau grym yn seiliedig ar ryw, hiliaeth neu ddosbarth  mewn polisi cymdeithasol;
  • polisi cymdeithasol Ewropeaidd a Rhyngwladol cymharol;
  • dadleuon ynglŷn â llywodraethu a rheoleiddio. 

1.6  Ymholiad beirniadol ac ymchwil cymdeithasol fel arf i adeiladu cyfalaf cymdeithasol:

  • datblygu dealltwriaeth o fodelau ymchwil; rôl hanfodol canfod gwybodaeth newydd a chwestiynau newydd;
  • yr amrywiaeth o ymagweddau at ymchwil sy’n pwysleisio ‘gweithio gyda’ yn hytrach nag ‘arbrofi ar’ gyfranogwyr;
  • trafodaeth ynghylch arfau a dulliau o ‘wneud y cyfarwydd yn ddieithr’ ac archwilio’r hyn mae’n ei olygu i fod yn feirniadol.

2.  Gweithio gyda phobl ifainc ac oedolion

2.1  Modelau datblygu trwy gydol cwrs bywyd ac ystyr hynny:

  • y cysylltiadau rhwng addysg a datblygiad a rhwng addysg a thwf;
  • ymagweddau cyfannol: corfforol, meddyliol, emosiynol ac ysbrydol;
  • trafodaeth feirniadol o fodelau datblygu normadol a modelau diffyg;
  • ffocws penodol ar lencyndod a natur oedolaeth, yn cynnwys astudiaethau’n mynd i’r afael â disgyblaethau academaidd theori seicolegol, cymdeithasegol a diwylliannol.

2.2  Ymgysylltu â phobl ifainc:

  • modelau ymgysylltu â phobl ifainc a chymunedau;
  • modelau dysgu ac a yw dulliau addysgol penodol yn fwy neu’n llai addas ar gyfer gwahanol gyfnodau neu grwpiau oedran;
  • gwaith estyn allan a gwaith datgysylltiedig;
  • gwaith prosiect; 
  • gwaith diwylliannol a chwaraeon;
  • arfer cyfranogol;
  • achredu arfer.

2.3  Iechyd, diogelwch a lles pobl ifainc:

  • diogelwch a diogelu plant a phobl ifainc, y tu mewn a’r tu allan i’r cartref;
  • hawl pobl ifainc i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt:
  • ffactorau sy’n cyfrannu at iechyd, yn cynnwys iechyd a lles rhywiol, ac iechyd a lles meddyliol;
  • arwyddocâd cynlluniau gwrth-fwlio a chefnogi cyfnodau pontio, yn enwedig i bobl ifainc bregus (e.e. pobl ifainc sy’n derbyn gofal).

2.4  Cefnogaeth anffurfiol gydag unigolion:

  • y berthynas rhwng gwaith gydag unigolion a gwaith gyda grwpiau mewn llencyndod;
  • pwysigrwydd a natur ffiniau personol a phroffesiynol;
  • gwaith arwain a rhoi cefnogaeth (yn cynnwys cyflwyniad i rôl ymgynghorwyr personol yn y gymuned a gwasanaethau cyfarwyddyd, cyngor, gwybodaeth a chymorth eraill);
  • y ddadl am hunaniaeth, rhyw, diwylliant, rhywioldeb a ‘chydweddu' fframweithiau asesu gweithwyr allweddol; rhannu gwybodaeth a chyfrinachedd; sgiliau cynghori:  gwrando, adfyfyrio a gofyn cwestiynau.

3.  Dulliau o ddysgu a datblygu

3.1 Addysg anffurfiol [heb fod yn ffurfiol], sgwrs, deialog feirniadol a dysgu drwy brofiadau:

  • diffiniadau a damcaniaethau ynghylch addysg anffurfiol (heb fod yn ffurfiol);
  • addysg anffurfiol [heb fod yn ffurfiol] megis gwrando, sgwrs a chymryd rhan mewn deialog a dechrau sgyrsiau; y berthynas rhwng tawelwch a’r llais; rôl dysgu o ran newid ymwybyddiaeth;
  • lle grym a hunaniaeth mewn dysgu; y berthynas wirfoddol fel y sylfaen ar gyfer dysgu yn sgil cyd-drafod; lle gweithgarwch mewn dysgu; lle ‘bod’ mewn dysgu o’i gymharu â ‘gwneud’;
  • y cysyniad o gwricwlwm a datblygu rhaglenni gwaith a’u hachredu mewn perthynas ag addysg anffurfiol;
  • y gwahaniaeth a’r cysylltiad rhwng addysg a dysgu anffurfiol a heb fod yn ffurfiol;
  • cynllunio a gweithredu gweithgareddau dysgu mewn addysg anffurfiol.

3.2  Dysgu lleoledig: lleol, byd-eang a metaffisegol:

  • dechrau o’r fan lle mae’r bobl ifainc, ond gan fynd â nhw oddi yno; gwybod o ble mae pobl ifainc yn dod;
  • y syniad o wreiddiau (hanesyddol a daearyddol) fel ffynonellau addysg anffurfiol;
  • dysgu byd-eang, dysgu amgylcheddol a dysgu diwinyddol neu sensitif i ffydd, defnyddio dulliau nodweddiadol o addysg anffurfiol, sy’n gofyn i ymarferwyr leoli eu harfer o fewn matrics o ddynameg grym ar draws llinellau terfyn lleol, byd-eang a ffydd;
  • dysgu dinasyddiaeth, ymholiad cydweithredol ac agored ac addysg wleidyddol.

3.3  Gwaith grŵp datblygiadol:

  • lle ac arwyddocâd grwpiau bach fel safle dysgu a datblygu;
  • y gwahaniaethau a’r cysylltiadau rhwng grwpiau cyfeillgarwch, grwpiau hunangymorth a chefnogi;
  • archwiliad beirniadol o rôl grwpiau cymheiriaid ac addysg cymheiriaid;
  • ffiniau a gofod diogel; grwpiau agored a chaeedig; fframiau amser ar gyfer gwaith grŵp; tebygrwydd ac amrywiaeth mewn gwaith grŵp; gwaith grŵp rhyw-benodol a sensitif i ddimensiwn rhyw; gwaith grŵp diwylliant-benodol a sensitif i ddiwylliant; arweinyddiaeth grŵp; camau datblygiad grŵp; dechrau, canol a diwedd; problemau cyffredin mewn gwaith grŵp; gwaith grŵp a lles.

3. 4  Creadigrwydd mewn dysgu:

  • natur creadigrwydd fel ffynhonnell dysg;
  • y cysylltiadau rhwng addysg anffurfiol (heb fod yn ffurfiol), addysg antur a chwarae;
  • archwilir gofod a lle trosiannol fel cylch creadigedd;
  • cyfraniad addysg gorfforol a chynlluniau celfyddydol i addysg heb fod yn ffurfiol
  • ymagweddau cyfannol at ddysgu.

4.  Datblygu sefydliadau yn y gymuned

4.1  Deall sefydliadau:

  • astudiaethau o’r asiantaethau a’r gweithleoedd lle cyflogir gweithwyr ieuenctid a chymuned;
  • archwilio ffurfiau sefydliadol biwrocrataidd ac ôl-fodern;
  • diwylliannau arbennig sefydliadau gwirfoddol/trydydd sector yn cynnwys eglwysi a chymunedau ffydd;
  • cyfathrebu a diwylliant mewn sefydliadau; awdurdod a hierarchaeth mewn sefydliadau; gweithio fel partneriaeth;
  • rôl sefydliadau cymunedol wrth gyfrannu at gydlyniad ac integreiddio;
  • natur llywodraethu a rheoleiddio;
  • strategaethau ar gyfer arfer gwrth-ormesol a gwrth-wahaniaethol ar lefel sefydliadol.

4.2  Rheolaeth ac arweinyddiaeth mewn prosiectau yn y gymuned:

  • astudiaeth o weithio rhyngbroffesiynol a rhyngddisgyblaethol, yn cynnwys arwain a rheoli timau ac unigolion;
  • archwilio cyfleoedd i gyllido arfer; mesur a datgan deilliannau a gwerthusiad; archwilio ac atebolrwydd; arfer yn seiliedig ar dystiolaeth;
  • dangosyddion perfformiad a’u datblygiad a’u defnydd, a fframweithiau asesu a rennir.

4.3  Arolygu, datblygu a hyfforddi staff:

  • modelau arolygu priodol i waith ieuenctid a chymuned;
  • modelau arolygu addysgol a therapiwtig; meithrin tîm a datblygu staff; gweithio gyda gwirfoddolwyr a gweithwyr rhan-amser; arfarnu staff;
  • rôl a datblygiad gweithwyr cymorth ieuenctid.

4.4  Cydraddoldeb, amrywiaeth a chyd-ddibyniaeth yn y gweithle a’r tu hwnt:

  • dyletswyddau cydraddoldeb a deddfwriaeth anwahaniaethol yn seiliedig ar hawliau dynol;
  • cydraddoldeb ar sail hil a rhyw, gwahaniaethu ar sail anabledd; trin pobl mewn perthynas un-rhyw yn deg; triniaeth deg o ran rhyddid i addoli;
  • archwilio gwrthdaro hawliau a dulliau o archwilio a gweithio gyda gwahaniaeth;
  • cyfraniad timau staff amrywiol at waith ieuenctid, addysg a datblygiad cymunedol;
  • dulliau o gefnogi ac arolygu staff amrywiol;
  • yr arfer o weithredu cadarnhaol a defnyddio delweddau cadarnhaol.

4.5  Gwaith amlddisgyblaethol ac aml-asiantaethol:

  • archwilio natur dulliau rhyngbroffesiynol a rhyngddisgyblaethol: y posibilrwydd o ymagweddau trawsbroffesiynol;
  • gwasanaethau integredig a’u hamcanion;
  • arfer cyffredin wrth asesu a monitro;
  • diwylliannau a chysylltiadau sefydliadol;
  • awdurdod ac atebolrwydd wrth weithio mewn partneriaeth.

5.  Arfer beirniadol ac adfyfyriol

5.1  Mae arfer beirniadol ac adfyfyriol yn cynnwys:

  • y model o’r gweithiwr proffesiynol fel ymarferydd adfyfyriol ac ymatblyg mewn addysg heb fod yn ffurfiol;
  • archwilio’r ystyron sy’n gysylltiedig â bod yn ymarferydd beirniadol;
  • atebolrwydd ar waith a dulliau o gydgefnogaeth;
  • mewn rhaglenni gweinidogaeth ieuenctid, y gallu i feddwl yn ddiwinyddol ac i adfyfyrio’n ddiwinyddol;
  • dysgu ymarfer: datblygu dealltwriaeth o arfer a/neu broffesiynoldeb mewn gwaith ieuenctid;
  • addysg gymunedol a datblygu cymuned.
    5.2  Sefydlu proffesiynoldeb mewn lleoliadau ymarfer:
  • archwilio arfer proffesiynol trwy leoliadau dros gyfnod sylweddol, ymweliadau a chyflwyniadau gan asiantaethau, mynychu a chymryd rhan mewn cynadleddau;
  • y fframwaith moesegol a chyfreithiol ar gyfer arfer proffesiynol mewn gwaith ieuenctid a chymuned; 
  • yr amrywiol leoliadau lle mae gwaith ieuenctid a chymuned yn digwydd, yn cynnwys lleoliadau seciwlar a seiliedig ar ffydd, cyd-destunau statudol a gwirfoddol, asiantaethau trydydd sector a sector preifat.

5.3  Sefydlu proffesiynoldeb mewn ymyriadau arfer

  • dod yn ymwybodol o’r ystod o ymyriadau proffesiynol a’r dulliau o ymyrryd gyda phobl ifainc a chymunedau: dulliau cyfeiriol ac anghyfeiriol;
  • gweithio gydag unigolion, grwpiau, sefydliadau a chymunedau; 
  • dibenion, cylchoedd gwaith, modelau a beirniadaethau;
  • fframweithiau cyfreithiol/statudol;
  • sgiliau a strategaethau ymarferol: trefnu; codi arian; rheoli prosiectau; cynllunio rhaglenni; cynlluniau gwerthuso; a gosod a chwrdd â thargedau;
  • partneriaethau a rhwydweithiau: gwaith rhyngddisgyblaethol ac aml-asiantaethol;
  • cynnwys defnyddwyr/grymuso cymunedau; gweithio gyda gwirfoddolwyr;
  • strategaethau ar gyfer arfer gwrth-ormesol, anwahaniaethol sy’n hybu lles

I grynhoi, mae meincnod Gwaith Ieuenctid, Addysg Gymunedol a Datblygu Cymunedol yn datgan y dylai graddedigion:

  • fod wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o sylfaen gwerthoedd gwaith ieuenctid, addysg a datblygu cymunedol;
  • gallu cymryd cyfrifoldeb proffesiynol a gallu dynodi eu hanghenion dysgu eu hunain;
  • arddangos creadigrwydd a gweithio fel ymarferwyr beirniadol, adfyfyriol ac ymatblyg;
  • fod yn gymwys i ddarllen a gwerthuso’n feirniadol ymchwil yn y maes astudio ac ymgymryd ag astudiaethau ymchwil cyfranogol ar raddfa fach gyda phobl ifainc a grwpiau cymunedol.

Mae meincnod Gwaith Ieuenctid, Addysg Gymunedol a Datblygu Cymunedol yn datgan ymhellach y dylai’r canlynol fod yn sail i broffesiynoldeb graddedigion sy’n ennill cymhwyster proffesiynol:

  • eu sylfaen gwybodaeth yn yr astudiaeth o waith ieuenctid a chymuned;
  • yr astudiaeth o addysg heb fod yn ffurfiol gyda phobl ifainc ac oedolion;
  • yr astudiaeth o sefydliadau yn y gymuned a'u rheolaeth.

Gwybodaeth Bellach

Pwnc-benodol 

Mae sgiliau pwnc-benodol a generig ar gyfer gwaith ieuenctid, addysg a datblygu cymunedol yn seiliedig ar sylfaen wybodaeth gref o theori ac arfer.  Dylai graddedigion arddangos eu bod wedi meithrin dealltwriaeth o fframweithiau damcaniaethol a chysyniadau allweddol sy’n berthnasol i arfer gwaith ieuenctid ac addysg gymunedol, yn ogystal â’r gallu i’w cymhwyso a’u cymathu.  I’r perwyl hwn, dylent allu arddangos:

  • dealltwriaeth ddeallus a beirniadol o’u rôl broffesiynol mewn perthynas ag ymyriadau proffesiynol eraill ym mywydau pobl ifainc a chymunedau;
  • ymreolaeth sylweddol wrth ddefnyddio dulliau confensiynol ac arloesol, gwreiddiol a chreadigol wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso rhaglenni addysgol ar draws ystod o leoliadau ymarfer;
  • dadansoddiad systematig o gysyniadau, damcaniaethau a materion polisi perthnasol, a’u defnydd wrth lywio arfer;
  • y gallu i gynnal ffiniau proffesiynol mewn perthynas wirfoddol ac mewn cyd-destunau heb fod yn ffurfiol;
  • y gallu i feithrin cyfranogiad a chefnogaeth i bobl ifainc ac oedolion wrth chwarae rhan weithgar yn eu cymunedau, gan gynyddu eu llais a’u dylanwad mewn cyd-destunau ac ar faterion sy’n effeithio arnynt;
  • y gallu i greu amgylcheddau cynhwysol ac i ddynodi a gwrthsefyll agweddau, ymddygiadau a sefyllfaoedd gormesol;
  • y gallu i adeiladu arfer ar sail dealltwriaeth o faterion grym, grymuso a chymhlethdod perthynas wirfoddol;
  • medrusrwydd o ran diogelu iechyd a lles unigolion a chymunedau trwy ddeall a gweithredu fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol;
  • gallu i arwain unigolion a grwpiau mewn ffordd sy’n briodol i’r cyd-destun;
  • sgiliau rheoli prosiectau (monitro, gwerthuso, rheolaeth ariannol, rheoli adnoddau, datblygu polisi);
  • y gallu i ymgysylltu â phobl ifainc a grwpiau cymunedol a hwyluso dysg a datblygiad unigol a chyfunol pobl ifainc ac oedolion;
  • y gallu i ddewis, cynllunio a gwerthuso ymagweddau priodol o blith ystod o ddulliau a thechnegau ymyrryd;
  • y gallu i weithio fel ymarferydd adfyfyriol, gan arddangos gweithredoedd ac ymddygiadau proffesiynol priodol;
  • y gallu i ddadansoddi polisïau ac arferion yng ngoleuni ystod o bersbectifau damcaniaethol a llunio ymatebion ysgrifenedig ac ymarferol;
  • medrusrwydd wrth adfyfyrio ar eu systemau gwerthoedd hwy ac eraill a’r gallu i archwilio’r gwerthoedd hyn mewn cyd-destunau heb fod yn ffurfiol;
  • cyfathrebu effeithiol gan ddefnyddio dulliau ysgrifenedig, electronig a llafar gydag unigolion a grwpiau;
  • y gallu i lunio a gweithredu cynlluniau, prosiectau a rhaglenni gan ddefnyddio fframweithiau a dulliau proffesiynol priodol;
  • medrusrwydd wrth werthuso dylanwad ac effeithiolrwydd eu gwaith a gwaith prosiectau yn y gymuned;
  • adfyfyrio’n feirniadol ar eu datblygiad personol a phroffesiynol parhaus a’u hymrwymiad iddo.

Sgiliau generig

Dylai graddedigion allu arddangos:

  • dealltwriaeth a gwerthusiad beirniadol o ymchwil yn y maes a’r gallu i ymgymryd â phrosiectau ymchwil cyfranogol ar raddfa fach;
  • y gallu i ddefnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu;
  • trefnu a mynegi safbwyntiau a dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio geirfa arbenigol berthnasol;
  • hunanreolaeth, yn cynnwys trefnu patrwm gwaith effeithiol ac effeithlon, a gweithio o fewn terfynau amser;
  • y gallu i gasglu a chymhwyso data rhifiadol, fel y bo’n briodol;
  • y gallu i gasglu, dadansoddi a dehongli data ansoddol a meintiol;
  • y gallu i gyflwyno data mewn ffurfiau gwahanol, yn cynnwys graffiau a thablau;
  • ymrwymiad i wella eu dysgu a’u perfformiad eu hunain;
  • dealltwriaeth o’u hymagweddau eu hunain at ddysgu.
  • gallu i weithio o’u pen a’u pastwn eu hunain ac mewn cydweithrediad ag eraill.

Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol: Gwaith Ieuenctid

1   Hwyluso datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol pobl ifainc:

1.1 Hwyluso dysg a datblygiad pobl ifainc drwy waith ieuenctid.
1.2 Cynllunio a gweithredu gweithgareddau dysgu mewn gwaith ieuenctid.
1.3 Hybu hunanymwybyddiaeth, hyder a chyfranogiad pobl ifainc.
1.4 Hybu mynediad i wybodaeth a chefnogaeth.

2   Hybu cydraddoldeb a diddordebau a lles pobl ifainc

2.1 Gweithio gyda phobl ifainc i hybu eu hawliau.
2.2 Diogelu iechyd a lles pobl ifainc.
2.3 Hybu cydraddoldeb a gwerth amrywiaeth.
2.4 Cyflawni gofynion rheoliadol a chyfundrefnol.

3   Gweithio gydag eraill:

3.1 Ymgysylltu â phobl ifainc.
3.2 Ymgysylltu â’r gymuned leol.
3.3 Meithrin perthynas waith a rhwydweithiau gwaith.

4   Datblygu strategaeth ac arfer gwaith ieuenctid

4.1 Sefydlu a blaenoriaethu gofynion gwaith ieuenctid.
4.2 Cynllunio a gweithredu strategaeth gwaith ieuenctid.
4.3 Hwyluso newid.
4.4 Monitro a gwerthuso effeithiolrwydd strategaeth a chynlluniau gwaith ieuenctid.

5   Arwain a rheoli timau ac unigolion:

5.1 Rheoli eich hunan.
5.2 Arwain a rheoli pobl eraill.
5.3 Datblygu cydweithwyr.
5.4 Cynnal iechyd a diogelwch yn y gweithle.