BA Fframwaith Arfer Proffesiynol
Cynnwys y Cwrs
Nod y Fframwaith Arfer Proffesiynol yw cynnig cyfleoedd dysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gyda’r cyfleoedd hynny’n rhai hygyrch, hyblyg a chynhwysol. Yn fwy na dim, ei fwriad yw cyflawni anghenion cyflogwyr a’r rheini sy’n gweithio iddynt. Ym mhob achos, cyfunir astudiaeth academaidd â dysgu yn y gweithle i ddarparu pobl â’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau perthnasol iddynt allu gwella perfformiad yn y gwaith ac ennill cymhwyster academaidd.
Bydd y dysgwyr yn gweithio gydag Ymgynghorydd Rhaglen a fydd yn rhoi arweiniad iddynt ac fel arfer ar gael iddynt trwy gydol eu hastudiaethau. Byddant yn cychwyn fel arfer â chynllun dysgu a gallant ennill credydau AU tuag at gymwysterau israddedig mewn Arfer Proffesiynol. Y cymwysterau yw Tystysgrif Addysg Uwch mewn Arfer Proffesiynol, Gradd Sylfaen mewn Arfer Proffesiynol a BA (Anrh) mewn Arfer Proffesiynol.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg
Hyd y Cwrs
Mae’n dibynnu ar y modylau a astudir
Gofynion Derbyn
Fel arfer disgwylir ichi fod mewn gweithle sy’n cefnogi eich cais, er y gallai hyn fod yn wirfoddol. Fe’ch gwahoddir i ymweld â’r Brifysgol i drafod y rhaglen. Caiff myfyrwyr eu derbyn ar sail teilyngdod unigol.Cyfleoedd Gyrfa
Mae’r Fframwaith Arfer Proffesiynol yn caniatáu i chi ennill cymwysterau prifysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol ac mae’n canolbwyntio ar ddatblygu eich gyrfa. Mae hefyd yn bosibl astudio ar lefel ôl-raddedig wrth i’ch gyrfa ddatblygu.
Modylau Enghreifftiol
- Cydnabod ac Achredu Dysgu
- Cynllun Rhaglen Dysgu yn y Gwaith
- Gweithio a Dysgu: cyflwyniad i addysg uwch yn y gwaith
- Dulliau Ymchwil ar gyfer Dysgu yn y Gwaith
- Cyflwyniad i Fentora
- Prosiect Dysgu yn y Gwaith
- Rheoli Prosiectau
- Astudio Annibynnol
- Portffolio Cymwyseddau
- Dwyieithrwydd yn y Gweithle
- Cymraeg Galwedigaethol (Gwrando a Siarad)
- Cymraeg Galwedigaethol (Darllen ac Ysgrifennu)
Nodweddion Allweddol
- Dysgu sy’n ymateb i alw gyda’i ansawdd wedi ei sicrhau ac sydd wedi ei addasu i anghenion unigolion ac anghenion datblygu eu cyflogwyr.
- Lleolir y dysgu yn bennaf yn y gwaith ac felly mae’n cwtogi ar yr amser sydd ei angen y tu allan i’r gweithle.
- Cynigir y rhaglenni drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
- Mae achredu dysgu blaenorol yn nodwedd o’r rhaglen, naill ai dysgu drwy brofiad gwaith neu drwy astudiaeth flaenorol.
- Mae dysgu drwy gymorth technoleg yn caniatáu i bobl ddysgu ar amserau ac mewn mannau sy'n gyfleus iddyn nhw.
Gwybodaeth Bellach
Dyfarniadau
- Tystysgrif AU
- Gradd Sylfaen (FdA)
- BA Anrhydedd
Lleoliad
- Dysgu yn y gwaith
- Sesiynau cyflwyno ar Gampws Caerfyrddin
Sut i wneud cais
Cysylltwch â wbl@ydds.ac.uk am ragor o fanylion.

