BA Diwinyddiaeth
Cynnwys y Cwrs
Mae'r radd hon ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau archwilio gweithiau sanctaidd Iddewiaeth a Christnogaeth, yn ogystal â dysgeidiaeth, arferion ac effaith gymdeithasol Cristnogaeth.
Cewch y cyfle i astudio'r traddodiadau crefyddol hyn o safbwyntiau hanesyddol a chyfoes, gan adeiladu ar arbenigeddau staff mewn astudiaethau beiblaidd, hanes yr eglwys, diwinyddiaeth systematig ac athronyddol, a chrefydd yn y byd cyfoes.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Côd UCAS
V610
Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.
Gofynion Derbyn
Fe'ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.Cyfleoedd Gyrfa
- Dysgu
- Gwaith cymdeithasol, Gofal iechyd
- Gwleidyddiaeth a'r Gwasanaeth Sifil
- Y cyfryngau a newyddiaduraeth
- Dilyn galwedigaeth grefyddol
- Sector gwirfoddol
Campws
Campws Caerfyrddin, Campws LlambedModylau Enghreifftiol
- Athrawiaeth Gristnogol
- Cristnogaeth mewn Hanes
- Naratif Hebraeg
- Menywod mewn Iddewiaeth a Christnogaeth Gynnar
- Llenyddiaeth Ioanaidd
- Luc-Actau
- Diwinyddiaeth Gyfoes
- Trindod a'r Eglwys
- Crefydd a Ffilm
- Athroniaeth Wleidyddol
- Credoau Abrahamaidd
- Profiad Crefyddol
- Meddwl am Grefydd
- Y Qu'ran
- Ffwndamentaliaeth
Nodweddion Allweddol
- Dysgir gan arbenigwyr pwnc
- Cymysgedd o ddosbarthiadau darlith a seminar
- Archwilio'r maes trwy ddysgu tywysedig
- Teithiau astudio (mae teithiau blaenorol wedi cynnwys Palestina/Israel, Yr Aifft, Syria, Efrog Newydd, Rhufain)
Gwybodaeth Bellach
Cyd-Anrhydedd
- BA Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Clasurol - QV86
- BA Diwinyddiaeth a Hanes - VV16
- BA Diwinyddiaeth ac Athroniaeth - VVP5
- BA Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol - V616*

