BA Cerddoriaeth

Cynnwys y Cwrs

Nod ein gradd yw creu cerddorion sy’n meddu ar sgiliau a fydd yn eu galluogi i weithio mewn amryw o feysydd proffesiynol cerddorol. Bydd datblygiad cerddorol y myfyrwyr yn cael ei feithrin yn ofalus ac fe fyddem yn eu hannog i ddod o hyd i’w llais cerddorol unigryw – dyna sy’n gwneud ein cwrs yn un cyffrous a gwahanol. Mae pwyslais yr Ysgol yn benodol ar ddatblygu a hyfforddi ‘gwneuthurwyr’. Hynny yw, cerddorion sydd â’r gallu a’r parodrwydd i fentro’n greadigol drwy greu, datblygu ac arddangos eu gwaith ar draws sawl math o lwyfan, cyfrwng a genre.

Yn ystod eich cyfnod o astudio yma, byddwch yn canolbwyntio ar y pedair agwedd ganlynol:

  • Perfformio
  • Creadigrwydd Cerddorol
  • Hanfodion Cerddoriaeth
  • Y Diwydiant Cerddorol

Wrth astudio BA Cerddoriaeth, bydd cyfle, o dan arweiniad darlithwyr a thiwtoriaid profiadol ac arbenigwyr o’r byd proffesiynol, i feithrin eich sgiliau cerddorol unigryw chi. Yn ogystal, trefnir datganiadau cyson a dosbarthiadau meistr gan gerddorion proffesiynol o sawl genre cerddorol.

Er mwyn sicrhau y bydd gennych ddealltwriaeth gytbwys ac eang a fydd yn sail i weddill eich astudiaeth a’ch gyrfa, mae’r radd hon yn cynnwys elfennau academaidd megis dadansoddi, hanfodion a hanes cerddoriaeth. Byddwn hefyd yn ehangu eich dealltwriaeth am feysydd galwedigaethol penodol,

Felly, bydd y cwrs arbennig hwn yn cryfhau eich dealltwriaeth gerddorol, yn datblygu eich potensial cerddorol a’ch creadigrwydd ehangach a fydd yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant cerddorol.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
W390

Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eu priodoldeb i'r rhaglen. Disgwylir i chi berfformio datganiad lleisiol a/neu offerynnol o safon Gradd 5 o leiaf. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg.

Cyfleoedd Gyrfa

Bwriad y cwrs yw creu unigolion sy'n meddu ar sgiliau cerddorol cyfredol ac yn sgil natur alwedigaethol y radd a'r cysylltiad cyson â'r diwydiant cerddorol, mae cyfran uchel o’n graddedigion wedi canfod swyddi ym meysydd teledu, radio, theatr, gwasanaethau cyhoeddus ac addysg.

Yn ogystal â pharatoi ffordd tuag at waith yn y diwydiannau cyfryngol, bydd y cwrs yn cyflwyno agweddau ar fentergarwch a rheoli cyllid er mwyn rhoi yr hyder i fyfyrwyr greu a datblygu eu cyfleoedd gyrfäol eu hunain. Gall hefyd arwain at lwybr astudiaeth neu hyfforddiant pellach mewn meysydd perthnasol.

Yn unol ag ethos yr Ysgol, meithrinnir sgiliau trosglwyddadwy buddiol er mwyn hybu eich cyflogadwyedd mewn meysydd ehangach yn ogystal.

Adran

Ysgol y Celfyddydau Perfformio

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Hyfforddiant Lleisiol / Offerynnol
  • Cyfarwyddo Cerdd
  • Cyfansoddi
  • Gwaith Sesiwn / Chwarae mewn band
  • Dosbarthiadau Meistr
  • Trefnu digwyddiadau cerddorol
  • Technoleg Cerdd
  • Cynhyrchu CD / DVD
  • Theori a Dadansoddi Cerddorol
  • Cyfansoddi ar gyfer y Cyfryngau

Nodweddion Allweddol

  • Cwrs lle rhoddir blaenoriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i astudio dramor
  • Cysylltiadau gyda’r diwydiant proffesiynol
  • Defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf
  • Cyfleoedd cyson i berfformio mewn digwyddiadau celfyddydol megis Gŵyl Flynyddol
  • Cyfleoedd cyson i fod yn rhan o Ddosbarthiadau Meistr. 

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd academaidd
  • Tîm sefydlog o addysgwyr a chyd-fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Gymreig a bywyd unigryw Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i’w harddangos
  • Digwyddiadau celfyddydol a cherddorol cyson ar y campws
  • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau perfformio a chyfryngol

Manylebau Rhaglen

Amcanion addysgol y rhaglen yw i:

  • feithrin creadigrwydd,  crefftwaith a sgiliau ymarferol;
  • hybu cyflogadwyedd a sicrhau dealltwriaeth lwyr o agweddau galwedigaethol y cerddor proffesiynol;
  • ddatblygu sgiliau dadansoddol a beirniadol y myfyrwyr, ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • sicrhau dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol, cymdeithasegol ac esthetaidd y testun.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a Dirnadaeth Bynciol

Dylai’r myfyrwyr graddedig allu dangos gwybodaeth a dirnadaeth am y canlynol :

  • repertoires a’r arferion sydd ynghlwm yn eu creu;
  • sgiliau clywedol / dadansoddol;
  • perfformio a’r sgiliau artistig sy’n gysylltiedig â hynny, gan gynnwys
  • cydlynu’r meddwl-corff a gwahanol agweddau ar feirniadaeth;
  • cyfansoddi ar gyfer amryw genre s;
  • hanfodion technoleg cerdd;
  • gwerthuso cynnyrch cerddorol o genre s amrywiol.

Sgiliau Ymarferol

  • Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau ymarferol, megis:
  • perfformio’n ymarferol fel unigolyn / grŵp / ensemble;
  • gweithredu amrediad o offer yn gysylltiedig â thechnoleg cerdd;
  • creu cerddoriaeth yn ôl gofynion testunol;
  • cynnal ymchwil personol er mwyn casglu, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth.

Sgiliau Cyffredinol a Gradd

Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau cyffredinol a gradd, megis:

  • ymateb mewn modd arloesol ac adeiladol i gyfleoedd creadigol;
  • cyfathrebu syniadau boed hynny ar ffurf llafar, gweledol, clywedol neu ysgrifenedig;
  • cydweithio’n effeithiol mewn grŵp;
  • gosod amcanion a’u cyrraedd trwy reoli eu hunain ac eraill;
  • gwerthuso eu gwaith eu hunain ac eraill mewn modd effeithlon;

rhyngweithio a chyfathrebu’n ddisgybledig ac effeithlon.