BA Cerdd a’r Cyfryngau

Cynnwys y Cwrs

Bwriad y cwrs yw hyfforddi unigolion i weithio yn y diwydiannau cyfryngol a cherddorol trwy gyflwyno cwricwlwm â gogwydd ymarferol pendant wedi'i seilio ar sylfeini academaidd cadarn. Bydd y radd yn rhoi hyder i chi fynegi eich hunan mewn ffyrdd creadigol ac yn datblygu eich dealltwriaeth o'r berthynas rhwng dau faes arbenigol sy'n cydblethu'n rhwydd.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil, dehongli a gwerthuso beirniadol ynghyd â nifer helaeth o sgiliau ymarferol trosglwyddadwy er mwyn hybu eich cyflogadwyedd.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
PW33

Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Gwahoddir pob ymgeisydd i glyweliad er mwyn asesu eich priodoldeb i'r rhaglen. Disgwylir i chi berfformio datganiad lleisiol a/neu offerynnol o safon Gradd 5 o leiaf. Mae angen meddu ar sgiliau llythrennedd da, gan amlaf, gyda TGAU Gradd C neu uwch yn y Gymraeg.

Cyfleoedd Gyrfa

Oherwydd natur alwedigaethol y radd a'r cysylltiad cyson â'r diwydiannau cyfryngol a pherfformio, mae ein graddedigion yn dueddol o ganfod swyddi ym meysydd teledu, radio, theatr, gwasanaethau cyhoeddus ac addysg. Yn unol ag ethos yr Ysgol, meithrinnir sgiliau trosglwyddadwy buddiol er mwyn hybu eich cyflogadwyedd mewn meysydd ehangach yn ogystal, gan gynnwys elfennau o fusnes a mentergarwch.

Adran

Ysgol y Celfyddydau Perfformio

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Cerddoriaeth Gyfoes
  • Cyfryngau Newydd
  • Creadigrwydd Digidol
  • Cerddoriaeth a Ffilm
  • Radio
  • Sgriptio
  • Technoleg a Cherddoriaeth
  • Cyfarwyddo Cerdd
  • Crefft y Fideo Cerddorol
  • Rhaglenni Dogfen

Nodweddion Allweddol

  • Cyfle cyson i weithio gydag arbenigwyr o'r byd proffesiynol
  • Cyfle i feithrin agweddau ac egwyddorion disgwyliedig yn y gweithle
  • Defnydd o'r dechnoleg ddiweddaraf mewn nifer o agweddau'r meysydd
  • Hyfforddiant unigol ac mewn grwpiau bychain
  • Ymweliadau
  • Cyfle i ennill profiad yn y meysydd trwy gysylltiadau'r ysgol
  • Gweithdai
  • Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd academaidd
  • Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw Prifysgol Y Drindod Dewi Sant
  • Gweithgareddau celfyddydol a cherddorol cyson
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i'w harddangos
  • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â'r diwydiannau perfformio a chyfryngol

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Cwrs lle rhoddir ystyriaeth i ddatblygu potensial pob unigolyn yn llawn
  • Cyfle i ymestyn galluoedd academaidd
  • Tîm o fyfyrwyr Cymraeg brwdfrydig
  • Awyrgylch Cymreig a bywyd unigryw Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
  • Gweithgareddau celfyddydol a cherddorol cyson
  • Cyfle i ddatblygu doniau newydd a chael cyfle i’w harddangos
  • Cyfle i feithrin nifer fawr o sgiliau galwedigaethol hollbwysig
  • Cysylltiadau uniongyrchol â’r diwydiannau perfformio a chyfryngol

Manylebau Rhaglen

Amcanion addysgol y rhaglen yw i:

  • feithrin creadigrwydd, crefftwaith, sgiliau ymarferol a thechnegol;
  • sicrhau dealltwriaeth lwyr o agweddau galwedigaethol yng nghyd-destun byd cerddoriaeth a’r cyfryngau;
  • sicrhau dealltwriaeth y myfyrwyr o hanes a datblygiad cyfryngau amrywiol;
  • ddatblygu sgiliau dadansoddol a beirniadol y myfyrwyr, ar lafar ac yn ysgrifenedig;
  • sicrhau dealltwriaeth o gyd-destun hanesyddol, cymdeithasegol ac esthetaidd y meysydd.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a Dirnadaeth Bynciol

Dylai’r myfyrwyr graddedig allu dangos gwybodaeth a dirnadaeth am y canlynol :

Cerddoriaeth

  • repertoires a’r arferion sydd ynghlwm â’u creu;
  • sgiliau clywedol / dadansoddol;
  • perfformio a’r sgiliau artistig cysylltiedig, gan gynnwys cydlynu’r meddwl-corff a gwahanol agweddau ar feirniadaeth;
  • cyfansoddi ar gyfer amryw genres;
  • hanfodion technoleg cerdd;
  • gwerthuso cynnyrch cerddorol o genre s amrywiol;

Cyfathrebu, Cyfryngau, Ffilm ac Astudiaeth Diwylliannol

  • hanes a datblygiad sefydliadau cyfryngol o fewn cymdeithas;
  • twf y cyfryngau  fel ffurfiau diwylliannol amrywiol;
  • gofynion amrywiol y broses gynhyrchu;
  • ysgrifennu ar gyfer cyfryngau amrywiol;
  • ffynonellau ariannu’r diwydiannau creadigol;
  • cyfraniad arloeswyr at ddatblygiad cyfryngau a genres amrywiol.

Sgiliau Ymarferol

Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau ymarferol, megis:

  • cwblhau aseiniad ymarferol fel unigolyn / grŵp / ensemble;
  • defnyddio sgiliau technoleg gwybodaeth a gweithredu amrediad o offer technegol;
  • creu cerddoriaeth yn ôl gofynion testunol;
  • creu sgriptiau gwreiddiol a’u gwireddu yn ymarferol;
  • cynnal ymchwil personol er mwyn casglu, gwerthuso a defnyddio gwybodaeth.

Sgiliau Cyffredinol a Gradd

Rhydd y rhaglen gyfle i fyfyrwyr ddatblygu ac arddangos amrywiaeth o sgiliau cyffredinol a gradd, megis:

  • ymateb mewn modd arloesol ac adeiladol i gyfleoedd creadigol;
  • cyfathrebu syniadau boed hynny ar ffurf llafar, gweledol, clywedol neu ysgrifenedig;
  • cydweithio’n effeithiol mewn grŵp;
  • gosod amcanion a’u cyrraedd trwy reoli eu hunain ac eraill;
  • gwerthuso eu gwaith eu hunain ac eraill mewn modd effeithlon;
  • rhyngweithio a chyfathrebu’n ddisgybledig ac effeithlon;
  • cofnodi a dadansoddi proses eu hymarfer creadigol.