BA Celf a Dylunio
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs arloesol ac unigryw hwn yn caniatáu ichi astudio celf a dylunio trwy gyfrwng y Gymraeg, i gyfathrebu yn y Gymraeg â’r tiwtoriaid a’r myfyrwyr ac i edrych ar ddiwylliannau gweledol creadigol Cymru.
Byddwch yn ymwneud â gwaith ymarferol ym meysydd dylunio, gwaith digidol, cyfrwng cymysg, gwaith dau a thri-dimensiwn a phrosiectau creadigol. Bydd y gwaith ymarferol yn cael ei danategu gan ddamcaniaethau a hanes celf a dylunio ynghyd â dealltwriaeth eang o bwysigrwydd y diwylliannau gweledol yn y byd creadigol.
Ar ôl datblygu eich sgiliau ymarferol, wrth symud ymlaen yn y cwrs, byddwch yn canolbwyntio’n fanylach ar agweddau o gelf a dylunio ac yn ogystal bydd cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau yma mewn prosiectau creadigol.
Bydd y radd yn cynnig rhychwant cyffrous o fodylau mewn amgylchedd cefnogol a heriol i fyfyrwyr a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu eich doniau creadigol personol mewn celf a dylunio a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Côd UCAS
WW12
Cyfleoedd Gyrfa
- Artist Proffesiynol/Cymunedol
- Artist celf gyhoeddus
- Curadu
- Gweinyddwr Celf
- Dysgu uwchradd a chynradd
Campws
Campws CaerfyrddinModylau Enghreifftiol
- Argraffu
- Cyfrwng cymysg 2D/3D
- Astudiaethau gweledol
- Prosiect creadigol
- Prosiect cynllunio proffesiynol
- Digidol
Nodweddion Allweddol
- Staff a chanddynt gymwysterau proffesiynol, academaidd a diwydiannol
- Teithiau, cynadleddau a digwyddiadau rheolaidd - yn genedlaethol a rhyngwladol
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer gwaith a hunangyflogaeth
- Cyfle i gymryd rhan mewn meddwl creadigol, hunanfynegiant, trafod a chyfathrebu

