BA Astudiaethau Crefyddol

Cynnwys y Cwrs

Ni allwch gael gwir ddealltwriaeth o'n cymdeithas, ein hanes a'r byd o'n cwmpas heb ddeall rhywbeth am yr amrywiaeth eang o grefyddau sydd yn y byd. Mae'r cwrs yma, felly, wedi'i gynllunio i helpu myfyrwyr ddeall crefyddau yn eu cyd-destunau diwylliannol, cymdeithasegol, hanesyddol, a diwinyddol.

Cewch ddealltwriaeth o'r berthynas ddeinamig rhwng crefydd a chymdeithas a byddwch yn archwilio'r rolau y mae crefydd yn eu chwarae yng nghwestiynau pwysicaf ein cyfnod. Aiff y rhaglen â myfyrwyr heibio'r sylw arwynebol a rodda'r cyfryngau i ddigwyddiadau cyfoes, gan ymdrin yn ddyfnach â hanes, hunaniaeth a goblygiadau ymrwymiad crefyddol i faterion sydd o bwys byd-eang.

Mae'r cwrs yn trafod amrywiaeth eang o feysydd thematig a daearyddol yn ogystal ag ystod eang o grefyddau. Rhodda hyn fewnwelediad gwirioneddol ichi i'r cyflwr dynol a'r llu o grefyddau gwahanol sydd yn y byd. Cewch y cyfle i ymweld ag addoldai ac i feithrin adnabyddiaeth ymarferol, bersonol o ddiwylliannau a chrefyddau 'eraill'.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
V627

Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser; Rhan-amser ar gael hefyd

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws.

Fe'ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Cyfleoedd Gyrfa

  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Sefydliadau cymorth ac elusennol rhyngwladol
  • Busnes/Rheolaeth
  • Twristiaeth, Cyfryngau
  • Dysgu

Adran

Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd

Campws

Campws Caerfyrddin, Campws Llambed

Modylau Enghreifftiol

  • Dulliau o Astudio Crefydd
  • Profiad Crefyddol
  • Traddodiadau Crefyddol Asiaidd
  • Meddwl am Grefydd
  • Y Qu'ran
  • Cyfraith Islamaidd
  • Ffwndamentaliaeth
  • Crefydd a Ffilm
  • Mudiadau Crefyddol Newydd
  • Credoau Abrahamaidd
  • Bywyd Muhammad

Nodweddion Allweddol

  • Dysgir gan arbenigwyr yn eu priod feysydd
  • Cyfle i ddatblygu prosiectau ymchwil annibynnol
  • Cyfleoedd i astudio dramor
  • Cyfleusterau llyfrgell rhagorol
  • Cyfleoedd i gael teithiau i addoldai, mae teithiau blaenorol wedi cynnwys Israel, Yr Aifft, Syria, Efrog Newydd, Rhufain

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Traddodiad hir o addysgu Astudiaethau Crefydd ac Addysg
  • Amrywiaeth eang o adnoddau yn ymwneud ag Astudiaethau Crefydd/Addysg, yn y llyfrgell ac yn y Ganolfan Adnoddau Addysg Grefyddol
  • Mae gan staff academaidd enw da o fewn eu meysydd ymchwil
  • Y dulliau a’r cyfleusterau addysgu diweddaraf
  • Mae’r Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd yn gartref i Ganolfan Astudiaethau Ecwmenaidd Genedlaethol Cymru ac mae’n chwarae rôl arweiniol yn y maes ecwmenaidd
  • Y mae’r Ysgol Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd yn cael ei chydnabod am ei rhaglen unigryw a’i defnydd o e-adnoddau

Manylebau Rhaglen

Prif amcanion addysgol y rhaglen yw:

  • Cyflwyno myfyrwyr i ddealltwriaeth eang, blaengar ac integredig o ffenomenon crefyddau’r byd;
  • Rhoi cyfle i fyfyrwyr werthfawrogi safle Cristnogaeth o fewn cyd-destun cymdeithas aml ffydd ac amlblwyfol;
  • Galluogi myfyrwyr i werthfawrogi natur y deialog rhwng Cristnogaeth a phrif grefyddau eraill y byd;
  • Cyflwyno myfyrwyr i ddealltwriaeth o arwyddocâd crefyddau’r byd yn eu hamrywiaeth o fewn cyd-destun byd-eang, ac yn eu perthynas a’i gilydd;
  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddod at y pwnc mewn ffordd agored ac ymchwiliol, ond gyda chywirdeb academaidd llawn;
  • Meithrin sgiliau academaidd a phersonol sy’n deillio o’r disgyblaethau a gynrychiolir o fewn agweddau ffenomenolegol, hanesyddol ac athrawiaethol crefyddau’r byd;
  • Cynnig i fyfyrwyr y sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

  • dangos ymwybyddiaeth o brif themâu, dadleuon, gwerthoedd, egwyddorion a dulliau Astudiaethau Crefydd, a disgyblaethau cysylltiedig lle bo’n briodol;
  • dangos gwybodaeth ac ymrwymiad deallus â phrif grefyddau’r byd yn eu ffurfiau amrywiol a chanolog;
  • dangos dealltwriaeth feirniadol o fynegiant Cristnogol mewn ffyrdd cymdeithasol, deallusol, hanesyddol, diwinyddol, moesegol, ac esthetig;
  • crynhoi, cynrychioli a dehongli ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd, gan gynnwys deunyddiau o ddisgyblaethau amrywiol;
  • gydag empathi a chywirdeb, ymgymryd ag argyhoeddiadau ac ymddygiad eraill;

Sgiliau Deallusol

  • dangos dealltwriaeth soffistigedig o gymhlethdod amlochrog crefyddau, yn enwedig yn y  berthynas rhwng crefydd a strwythurau cymdeithasol a diwylliannol ehangach;
  • defnyddio nifer o ddulliau astudio cyflenwol, gan gynnwys rhai diwinyddol, athronyddol, hanesyddol, cyfundrefnol, dogmatig, deongliadol, empirig, dyfaliadol, a gwyddonol cymdeithasol;
  • datblygu’r gallu i gyfosod gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau;
  • datblygu’r gallu i ddadansoddi a chwestiynu’r cysyniadau, y dadleuon a’r damcaniaethau y cyfarfyddir â hwy ar y cwrs;
  • dangos ymwybyddiaeth feirniadol o’ch credoau, eich ymrwymiadau, a’ch rhagfarnau eich hunan a bod yn barod i ymaddasu i egwyddorion a dealltwriaethau newydd;
  • gyda sensitifrwydd, dangos ymwybyddiaeth o’r honiadau am sicrwydd sy’n codi mewn traddodiadau crefyddol, ac adnabod eu heffeithiau cadarnhaol a negyddol;
  • dangos ymwybyddiaeth o sut y ffurfir hunaniaethau a chymhelliannau cymunedol gan grefyddau, sut mae’r rhain yn cael effeithiau adeiladol a dinistriol, a pha mor bwysig yw hunaniaethau o’r fath;

Sgiliau Galwedigaethol/Proffesiynol

  • dangos cymhwysedd ymarferol yn y meysydd modwl hynny sy’n gofyn am sgiliau ymarferol;
  • dangos gwybodaeth o’r pynciau hynny sy’n ymddangos ar  y rhan fwyaf o feysydd llafur Addysg Crefyddol mewn ysgolion;
  • dangos y gallu i adennill, rhidyllu a dewis gwybodaeth o ystod o ffynonellau;
  • dangos y gallu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol wrth gyflwyno a chyfathrebu;

Sgiliau Allweddol

  • cyfathrebu gwybodaeth, syniadau, dadleuon, egwyddorion a damcaniaethau drwy ddulliau amrywiol, er enghraifft, traethodau o hydoedd gwahanol a drefnir ac a gyflwynir yn glir;
  • cyfathrebu gwybodaeth, syniadau, egwyddorion a damcaniaethau drwy ddulliau llafar a dulliau gweledol addas;
  • adnabod, casglu a thrafod data a deunyddiau o ffynonellau gwreiddiol, naill ai drwy astudiaethau testunol neu waith maes;
  • rheoli amser, gweithio yn ôl terfynau amser, a blaenoriaethu;
  • rhoi sylw i, atgynhyrchu yn gywir, ac ystyried syniadau a dadleuon pobl eraill;
  • cydweithio fel aelod o dîm neu grŵp;
  • ymgymryd ag astudiaeth annibynnol (gan gynnwys rheoli amser) ac ystyried eich cryfderau a'ch gwendidau fel dysgwr;
  • defnyddio adnoddau'r llyfrgell er mwyn canfod deunyddiau ffynhonnell, casglu llyfryddiaethau, goleuo ymchwil a gwella cyflwyniadau;
  • defnyddio sgiliau TG a chyfrifiadurol er mwyn casglu data ffynhonnell a chefnogi ymchwil.

Gwybodaeth Bellach

Cydanrhydedd

  • BA Astudiaethau Crefyddol ac Anthropoleg - LV66
  • BA Astudiaethau Crefyddol ac
  • Astudiaethau Tsieineaidd - TV16
  • BA Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd - TV66*
  • BA Astudiaethau Crefyddol ac Athroniaeth - VV6M
  • BA Astudiaethau Crefyddol a Diwinyddiaeth - V616*