BA Astudiaethau Addysg Gynradd

Cynnwys y Cwrs

Anelir y rhaglen at y rhai sydd â diddordeb mewn Addysg mewn Ysgolion Cynradd a gellid ei hystyried yn radd 'cyn-broffesiynol' ar gyfer y sawl sy'n gobeithio gwneud Tystysgrif Addysg i Raddedigion ar ôl cwblhau'r radd yn llwyddiannus.

Y mae'n rhaglen addas hefyd i rai sydd eisiau gweithio mewn swyddi eraill ym maes addysg gynradd ee Cynorthwywyr Addysgu.

Bydd y rhaglen radd yn cynnig y cyfle i chi astudio'r cwricwlwm cynradd yn fanwl tra'n gwneud cysylltiadau gydag agweddau addysgol ehangach.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
X320

Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser; Rhan-amser ar gael hefyd

Gofynion Derbyn

Gweler cyflwyniad y Prosbectws. 

Fe’ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Cyfleoedd Gyrfa

Bwriad y radd yw darparu sgiliau trosglwyddadwy a fyddai'n gymwys ar gyfer nifer o feysydd gyrfaol, yn arbennig y rhai sy'n ymwneud â phlant. Y mae hefyd yn gwrs paratoadol ar gyfer y proffesiwn addysgu cynradd.

Adran

Ysgol Cyfiawnder a Chynhwysiant Cymdeithasol

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Byd Newidiol Addysg
  • Y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru
  • Astudiaethau Cyfnod Allweddol 2
  • Addysg Gymdeithasol, Foesol, Ysbrydol a Diwylliannol
  • Prosiect Personol
  • Anghenion Addysgol Ychwanegol

Nodweddion Allweddol

  • Cyfleoedd i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg neu'n Ddwyieithog
  • Cyfleoedd ar gyfer Profiad Gwaith
  • Cyfleoedd i Astudio Dramor
  • Cyfle i arbenigo mewn agweddau ar addysg gynradd, er enghraifft Addysg Arbennig/Anghenion Addysgol Ychwanegol, Addysg Amgylcheddol ac Astudiaethau Creadigol, ar gyfer cwblhau traethawd hir
  • Staff profiadol sy'n meddu ar brofiad arbennig ym maes Addysg Gynradd
  • Adnoddau rhagorol ar gyfer addysg gynradd
  • Cysylltiadau agos â 250 o ysgolion cynradd partner

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Staff profiadol sy’n meddu ar brofiad arbennig ym maes addysg gynradd
  • Adnoddau arbennig ar gyfer addysg gynradd
  • Cysylltiadau agos â 250 o ysgolion cynradd

Manylebau Rhaglen

Prif amcan addysgol y rhaglen yw:

  • caffael y wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr adfyfyrio’n feirniadol ar natur addysg gynradd mewn amgylcheddau dysgu tu fewn a thu allan i’r ysgol.

Fel rhan o’r prif amcan hwn, bydd cyfle gan hyfforddeion i:

  • ddatblygu dealltwriaeth o weithrediad y fframweithiau ar gyfer dysgu ffurfiol;
  • datblygu dealltwriaeth hanesyddol eang o fframweithiau addysgol statudol yng Nghymru a’r DU gan gynnwys ffactorau allweddol yng nghyd-destun diwylliannol a gwleidyddol addysg;
  • datblygu dealltwriaeth eang o gaffael iaith a fydd yn hysbysu gwerthusiad beirniadol o’r defnydd o iaith wrth addysgu yn y cyfnod cynradd;
  • ymgysylltu â gwybodaeth a dealltwriaeth eang a chytbwys o brif nodweddion Cynhwysiant Cymdeithasol o fewn sefydliadau mewn cyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol;
  • datblygu gwybodaeth ddigonol o agweddau ar ysgolion mewn perthynas ag ymwybyddiaeth gymdeithasol, gwerthoedd moesol, ysbrydolrwydd a gofal bugeiliol;
  • caffael gwybodaeth bedagogaidd eang er mwyn hysbysu dealltwriaeth academaidd drwyadl o’r arfer gorau ar gyfer dysgu ac addysgu yn y sector cynradd mewn amgylcheddau dysgu tu fewn a thu allan i’r ysgol;
  • datblygu sgiliau astudio sy’n berthnasol i lythrennedd, rhifedd, TGCh ac ymchwilio.

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Erbyn diwedd y rhaglen dylai myfyrwyr allu:

  • arddangos dealltwriaeth feirniadol o’r gwerthoedd ac egwyddorion tanategol sy’n berthnasol i astudiaethau addysg a safbwynt personol datblygol a fydd yn tynnu ar eu gwybodaeth a dealltwriaeth;
  • arddangos dealltwriaeth feirniadol o’r amrywiaeth o ddysgwyr a chymhlethdodau’r broses addysgol;
  • arddangos dealltwriaeth feirniadol o gymhlethdod y rhyngweithiad rhwng dysgu a chyd-destunau, a’r ystod o ffyrdd y gall cyfranogwyr (yn cynnwys dysgwyr ac athrawon) ddylanwadu ar y broses ddysgu;
  • arddangos dealltwriaeth feirniadol o strwythurau a dibenion cymdeithasol a chyfundrefnol y systemau addysg, a’r goblygiadau posib i ddysgwyr a’r broses ddysgu;
  • arddangos gallu i adolygu, atgyfnerthu, ymestyn a chymhwyso’u gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws ystod eang o faterion polisi cymdeithasol a gallu adfyfyrio’n feirniadol ar syniadau a gyflwynir wrth addysgu ac mewn llenyddiaeth berthnasol.

Cymhwysiad

Erbyn diwedd y rhaglen dylai myfyrwyr allu:

  • dadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a materion polisi addysgol mewn ffordd drefnus;
  • adnabod ac adfyfyrio ar gysylltiadau a bylchau potensial rhwng pob un o’r agweddau ar wybodaeth bynciol a’u defnydd mewn polisïau a chyd-destunau addysgol;
  • ymaddasu i egwyddorion a dealltwriaethau newydd;
  • dewis ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd perthnasol, gan gynnwys tystiolaeth ar sail damcaniaeth ac ymchwil, er mwyn ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth;
  • defnyddio ystod o dystiolaeth i lunio ffyrdd priodol a ffyrdd y gellir eu cyfiawnhau o symud ymlaen yn ogystal â newidiadau arfer posibl.

Adfyfyrio

Erbyn diwedd y rhaglen dylai myfyrwyr allu:

  • dangos y gallu i adfyfyrio ar eu gwerthoedd eu hunain ac eraill;
  • dangos y gallu i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn feirniadol i leoli a chyfiawnhau safbwynt personol mewn perthynas â’r pwnc;
  • dangos dealltwriaeth o arwyddocâd a chyfyngiadau damcaniaethau ac ymchwil.

Sgiliau pwnc-benodol

Erbyn diwedd y rhaglen dylai myfyrwyr allu:

  • dangos y gallu i ddeall damcaniaethau, cysyniadau a dulliau craidd polisi cymdeithasol a gallu clir i wahaniaethu rhyngddynt;
  • dangos dealltwriaeth a gallu i adfyfyrio ar sail gwerthoedd danategol llawer o gynigion polisi a gwahaniaethu’n glir rhwng dadleuon normadol ac empirig.

Sgiliau Trosglwyddadwy a Generig

Erbyn diwedd y rhaglen dylai myfyrwyr allu:

  • trefnu a mynegi safbwyntiau a dadleuon ar lafar ac yn ysgrifenedig gan ddefnyddio geirfa arbenigol berthnasol;
  • defnyddio TGCh yn eu hastudio ac mewn sefyllfaoedd priodol eraill;
  • casglu a chymhwyso data rhifyddol, fel y bo’n briodol; cyflwyno data mewn fformatau amrywiol gan gynnwys mewn graffiau a thablau; dadansoddi a dehongli data ansoddol a meintiol;
  • cydweithio a chynllunio fel rhan o dîm, cyflawni rolau a ddyrannwyd gan y tîm gan arwain lle y bo’n briodol, a chyflawni’r cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt;
  • mynegi’u hymagweddau eu hunain at ddysgu a threfnu patrwm gwaith effeithiol gan gynnwys gweithio o fewn terfynau amser;
  • prosesu a chyfosod data empirig a damcaniaethol, i greu cyfosodiadau newydd, a chyflwyno a chyfiawnhau safbwynt a ddewiswyd yn sgil tynnu ar bersbectifau damcaniaethol perthnasol;
  • arddangos sensitifrwydd tuag at werthoedd a diddordebau pobl eraill: gallu uwch i adnabod a deall y safbwyntiau normadol a moesol gwahanol er mwyn gwerthfawrogi sut y canfyddir ac y cyflawnir anghenion dynol – a chynnwys y ddealltwriaeth hon wrth ddadansoddi polisi cymdeithasol.