BA Addysg Gynradd gyda SAC

Cynnwys y Cwrs

Darperir y cwrs BA Addysg Gynradd gyda SAC yng Nghaerfyrddin gan Ganolfan Addysg Athrawon De Orllewin Cymru. Mae’n canolbwyntio ar astudiaeth broffesiynol o holl amrediad addysg gynradd. Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio yn y fath fodd i addysgu a hyfforddi athrawon ar gyfer ysgolion Cymru a thu hwnt ond gan roi sylw penodol i gyd-destun ieithyddol a blaenoriaethau addysg yng Nghymru.

Prif egwyddor y rhaglen yw sicrhau eich bod yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o’r cwricwla statudol ar gyfer ysgolion cynradd, a hynny mewn amgylchedd sy’n gofalu amdanoch, yn eich cefnogi ac yn eich annog. Gyda’n hysgolion partner, rydym yn anelu at sicrhau eich bod yn cyrraedd eich potensial llawn wrth ddatblygu’n ymarferydd effeithiol a myfyrgar sy’n medru addysgu mewn ysgolion cynradd heddiw yn ogystal â medru delio â heriau’r dyfodol.

Byddwch yn astudio chwe modwl ym mhob blwyddyn, pump ohonynt yn astudiaethau o fewn y Brifysgol ac un yn seiliedig ar ystod o brofiadau mewn ysgolion.

Astudiaethau Prifysgol-seiliedig

Mae’r ddarpariaeth o fewn y Brifysgol yn cynnwys modylau i feithrin eich dealltwriaeth o’r heriau a’r mwynhad o addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae’r prif elfennau yn cynnwys:

Egwyddorion Addysgeg

Mae’r modylau hyn yn cyflwyno i chi’r egwyddorion ac arferion dysgu ac addysgu a gaiff eu cadarnhau a’u datblygu ar draws gweddill y cwrs. Ymhlith y materion a drafodir mae datblygiad proffesiynol athrawon, yr athro a’r gyfraith, gofal proffesiynol o blant ac agweddau ar anghenion dysgu ychwanegol. Byddwch yn datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgu plant ifanc (3-7) yn y Cyfnod Sylfaen. Byddwch hefyd yn dysgu sut i wneud defnydd da o’r canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a sefydliadau eraill, yn cynnwys yr arolygaeth yng Nghymru, sef Estyn.

Gwybodaeth a dealltwriaeth

Mae’r rhaglen yn cynnwys modylau ar iaith a mathemateg, sef sylfeini dysg. Byddwn yn datblygu eich sgiliau llythrennedd a rhifedd personol yn ogystal â sut i addysgu plant. Mae’r rhaglen hefyd yn cynnwys modylau ar ddysgu trwy’r celfyddydau mynegiannol, y dyniaethau a gwyddoniaeth gan ddatblygu dealltwriaeth o ystod eang o waith ar draws y pynciau.

Rhoddir cryn bwyslais ar TGCh o fewn y rhaglen i gefnogi’r dysgu ar draws ardaloedd y cwricwlwm.

Themâu

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o themâu allweddol megis addysg bersonol a chymdeithasol, cynaladwyedd, dinasyddiaeth fyd-eang a diwylliant Cymraeg a Chymreig. Rhoddir cryn bwyslais ar ddysgu trwy ddatrys problemau gyda’r nod o ddatblygu sgiliau gweithio gydag eraill, sgiliau ymchwil a chyfathrebu, sy’n angenrheidiol ar gyfer addysgu yn yr unfed ganrif ar hugain.

Mae’r Brifysgol wedi gwneud defnydd da o’i thraddodiad hir a chyfoethog o gynnig hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn canfod ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r dimensiwn Cymreig mewn addysg. Byddwch yn cael gwedd eang ar Gymru trwy ymweliadau addysgol a gwaith maes. Cewch hefyd gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg a dwyieithog er mwyn sicrhau eich hyder yn eich defnydd o’r iaith, gan ddatblygu eich sgiliau i fedru addysgu mewn dosbarth amlieithog.

Profiadau Ysgol-seiliedig

Lluniwyd y Profiadau Ysgol-seiliedig i’ch galluogi i gymhwyso’r wybodaeth, y medrau a’r ddealltwriaeth a gafwyd yn eich Astudiaethau Prifysgol-seiliedig mewn cyd-destunau addysgol mewn ysgolion. Fe’ch cyflwynir i faterion addysgu a dysgu ar lefel sylfaenol yn gynnar yn y cwrs, cyn ailymweld â nhw mewn mwy o ddyfnder wrth i’r cwrs fynd yn ei flaen, gan arwain yn y pendraw at ennill Statws Athro Cymwysedig erbyn diwedd y drydedd flwyddyn.

Mae 24 wythnos o Brofiadau Ysgol-seiliedig ar draws y tair blynedd pan gewch eich lleoli mewn ysgolion ar hyd a lled de, gorllewin a / neu ganolbarth Cymru. Fe gewch ystod o brofiadau addysgu a fydd yn eich galluogi i arddangos eich gallu yn y safonau addysgu cenedlaethol wrth i chi weithio tuag at fod yn annibynnol fel darpar athrawon. Darperir Profiadau Ysgol-seiliedig trwy’r canlynol:

  • Cyfres o ymweliadau i ystod eang o leoliadau addysgol
  • Lleoliadau addysgu yn y tair blynedd, gan ddewis eich hoff gyfnod - Cyfnod Sylfaen (3-7 mlwydd oed) neu Gyfnod Allweddol 2 (7-11 mlwyddoed) yn eich lleoliad terfynol.

Os ydych yn astudio’r radd drwy gyfrwng y Gymraeg, fe’ch lleolir mewn ystod o ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Y Cwricwlwm Cymreig

Mae’r Brifysgol wedi gwneud defnydd da o’i draddodiad hir a chryf o gynnig hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn canfod ffyrdd a dulliau o hyrwyddo ymwybyddiaeth yr hyfforddeion o’r dimensiwn Cymreig mewn addysg. Byddwch yn cael gwedd eang ar Gymru trwy ymweliadau addysgol a gwaith maes.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
X123

BA Primary Education(QTS) –Cyfrwng Saesneg-X120

Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser

Gofynion Derbyn

Gofynion derbyn.

Disgwylir i ymgeiswyr fod â gradd B TGAU mewn o leiaf 2 o’r pynciau craidd – Cymraeg / Saesneg iaith, Mathemateg, a Gwyddoniaeth. Ystyrir eithriadau os yw’r proffil yn gyffredinol uchel ar draws gweddill y pynciau.

Os y byddwn yn eich gwahodd i gyfweliad bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen yn nodi eich bod yn cwrdd ag anghenion y ddogfen ‘Fitness to Teach’ a gyhoeddwyd gan y DIUS.

Cyfleoedd Gyrfa

Dangosodd arolygon blynyddol gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd fod dros 80% o raddedigion, yn draddodiadol, wedi cael swyddi dysgu o fewn chwe mis ar ôl gorffen eu cwrs. Mae mwy o alw am athrawon sy’n medru addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ehangir ar y cyfleoedd am gyflogaeth drwy’r cyfle i astudio nifer o ddyfarniadau atodol, e.e. Tystysgrif Ysgolion Eglwysig, Golwg ar Gymru a’i Phobl, Cymorth Cyntaf ac amrywiaeth o ddyfarniadau Hyfforddi Chwaraeon.

Adran

Ysgol Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon

Campws

Campws Caerfyrddin

Nodweddion Allweddol

  • Ansawdd uchel yr addysgu wedi’i gydnabod gan Estyn
  • Arbenigedd pynciol ac addysgeg
  • Hyfforddiant staff ac ymchwil i Sgiliau Meddwl
  • Perthynas gref ag ysgolion y Bartneriaeth
  • Darpariaeth arloesol a chymhwysol TGCh
  • Adnoddau arsylwi unigryw mewn dwy ysgol gynradd leol
  • Traddodiad hir o brofiad ac arbenigedd mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ynghyd â’r Cwricwlwm Cymreig
  • Cyfleoedd i ehangu profiadau:
    • Modylau dewisol
    • Amrediad o brofiadau ac ymweliadau ag ysgolion
    • Cyfle yn yr ail flwyddyn i ymweld ag ysgol yn Llundain, yn cynnwys yr Ysgol Gymraeg
    • Teithiau addysgol tramor – ar hyn o bryd i Lesotho, Virginia, Seland newydd.

*Dyfarnwyd cyrsiau hyfforddiant athrawon fel y gorau yng Nghymru mewn adroddiad gan arolygwyr ESTYN (2008). Gelllir gweld yr adroddiad llawn ar www.estyn.gov.uk

Manylebau Rhaglen

Amcanion Addysgol:

Dyma amcanion y rhaglen:

  • Galluogi hyfforddeion i ddod yn ymarferwyr sy’n adfyfyrio ac sy’n feirniadol yn archwilio safon eu haddysgu a dysg y plant yn yr ystod oedran 3-11.
  • Addysgu’r hyfforddeion â’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth a fydd yn eu galluogi i addysgu’n llwyddiannus.
  • Galluogi hyfforddeion i gael ehangder o wybodaeth bedagogaidd i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau mewn ffordd broffesiynol.
  • Galluogi hyfforddeion i ddangos creadigrwydd, ymroddiad, egni a brwdfrydedd yn eu haddysgu.
  • Galluogi hyfforddeion i ddeall natur nodweddiadol greadigol dysgu yn y Cyfnod Sylfaen.
  • Galluogi hyfforddeion i ddatblygu’r sgiliau gofynnol i addysgu mewn amgylchedd dwyieithog.
  • Galluogi hyfforddeion i gyrraedd y Safonau Statws Athro Cymwysedig a ddisgrifir yng Nghylchlythyr 41/2006 Llywodraeth y Cynulliad mewn perthynas â Gwerthoedd ac Ymarfer Proffesiynol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth ac Addysgu.
  • Bodloni gofynion y Cynulliad o ran Mynediad, Hyfforddi ac Asesu Hyfforddeion, Rheoli’r Bartneriaeth HCA a Sicrhau Ansawdd.

Deilliannau’r Rhaglen

Dyma ddeilliannau’r rhaglen:

Astudiaethau Coleg-Seiliedig

  • Galluogi hyfforddeion i ddatblygu’r ehangder gwybodaeth a dealltwriaeth yn y meysydd dysgu a’r pynciau craidd sydd eu hangen arnynt i fod yn sail i addysgu’r pynciau hynny yn effeithiol.
  • Ymchwilio i faes o ddiddordeb proffesiynol gan arwain at lunio traethawd hir. Bydd hyn yn galluogi hyfforddeion: i wybod y diweddara am ymchwil a datblygiadau mewn addysgu; i gael gafael ar dystiolaeth arolygu ddiweddar ac ymchwil ystafell ddosbarth berthnasol, ac i ddefnyddio’u gwybodaeth wrth ddysgu ac addysgu.
  • Rhoi ehangder profiad i hyfforddeion ym mhob maes dysgu a’r Pynciau Anghraidd ac Addysg Grefyddol i’r graddau y bydd ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o addysgu’r pynciau hynny gyda chymorth ymarferwyr profiadol.
  • Galluogi hyfforddeion i ennill sgiliau TGCh cyffredinol ar lefel uchel, a gallu i wybod pryd a sut i weithredu TGCh ar hyd y cwricwlwm cynradd.
  • Rhoi hyfforddiant trwyadl i hyfforddeion i’w galluogi i addysgu’r oedran 3-11 a darparu arbenigedd ychwanegol yn y Cyfnod Sylfaen neu gyfnod Allweddol 2.
  • Darparu hyfforddeion â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth gofynnol i’w galluogi i addysgu mewn sefyllfaoedd dwyieithog amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.

Astudiaethau Ysgol-Seiliedig

  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion ymgyfarwyddo â bywyd ysgol ac i archwilio sgiliau addysgu mewn sefyllfaoedd dysgu ymarferol o dan arweiniad cydweithwyr profiadol.
  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion dreulio cyfnodau cyson a sylweddol yn addysgu dosbarth er mwyn iddynt fodloni’r holl safonau a nodir yn nyfarniad Statws Athro Cymwysedig Cylchlythyr 41/2006.
  • Hyfforddi hyfforddeion i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau proffesiynol yng nghyd-destun ysgol. 
  • Galluogi hyfforddeion i ddatblygu dealltwriaeth o ddisgyblion mewn ysgol, y pethau sy’n debyg ac yn wahanol ynddynt, yn enwedig o ran eu hanghenion, ymddygiad, aeddfedu a lefelau cyrhaeddiad, ac i ddangos meistrolaeth ar gadw disgyblaeth a rheoli ymddygiad disgyblion.
  • Galluogi hyfforddeion i hyrwyddo datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion drwy gynorthwyo’r disgyblion i ddatblygu cydberthnasau llwyddiannus a dod yn ddinasyddion gweithgar yn ogystal â deall materion sy’n ymwneud â lles ac iechyd corfforol drwy ddatblygu parch at eu hunain ac at eraill. Dylai hyfforddeion hefyd ddeall y potensial i ddatblygu gallu’r disgyblion i adfyfyrio’n ysbrydol mewn ethos sy’n cynnig sefydlogrwydd, trefn a pharch.
  • Ar y cyd â’r Coleg a’r ysgolion, rhoi’r cyfle i hyfforddeion adnabod eu cryfderau a’u hanghenion datblygu er mwyn sefydlu llinell waelod ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
  • Hyfforddi hyfforddeion i gymryd cyfrifoldeb am adnabod eu cyraeddiadau proffesiynol eu hunain drwy lunio Proffil Datblygiad Proffesiynol wrth weithio tuag at gyrraedd Safonau dyfarniad Statws Athro cymwysedig yn ôl gofynion Cylchlythyr 41/2006.
  • Rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth gofynnol i hyfforddeion i’w galluogi i addysgu mewn amgylchiadau dwyieithog amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.
  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion gynllunio a pharatoi’n effeithiol ar gyfer addysgu yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2.
  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion weithredu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Meysydd Dysgu yn y Cyfnod Sylfaen a’r disgyblaethau pwnc yn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghyfnod Allweddol 2 yn yr ystafell ddosbarth.
  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion feithrin gwybodaeth a dealltwriaeth TGCh y disgyblion yn yr ystafell ddosbarth.
  • Cynnig y cyfle i hyfforddeion weithredu eu dealltwriaeth ddamcaniaethol o fonitro, asesu a chofnodi yn yr ystafell ddosbarth gyda phwyslais penodol ar gael dysgwyr i fod yn rhan o’u eu dysg eu hunain.

Gan gyfeirio at Ddatganiad Meincnod Astudiaethau Addysg, bydd deilliannau dysgu’r modylau a nodir yn y rhaglen yn galluogi myfyrwyr i ddangos eu bod:

Gwybodaeth a dealltwriaeth

  • yn ymwybodol o’r gwerthoedd a’r egwyddorion sy’n berthnasol i Astudiaethau Addysg;
  • yn gwybod am amrywiaeth dysgwyr a chymhlethdodau’r broses addysg;
  • yn ymwybodol o’r amgylchiadau gwahanol y gall dysgu ddigwydd ynddynt a’r ystod swyddogaethau gwahanol sydd gan y rheiny sy’n cymryd rhan yn y broses dysgu (gan gynnwys y dysgwr a’r athro);
  • yn deall y strwythurau cymdeithasol a chyfundrefnol, a diben systemau addysg;
  • yn gallu adnabod ffynonellau gwreiddiol ac/neu eilaidd perthnasol – rhai damcaniaethol a rhai sy’n seiliedig ar ymchwil – a gallu defnyddio’r rhain yn addas wrth astudio er mwyn ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.

Gweithredu

  • yn gallu dadansoddi cysyniadau a damcaniaeth addysgol ac ystyriaethau polisi yn systematig;
  • yn gallu adnabod cysylltiadau posibl rhwng pob agwedd ar wybodaeth pwnc a’r gweithredu arnynt mewn amgylchiadau a pholisïau addysgol;
  • yn gallu addasu i egwyddorion a dealltwriaethau newydd.

Adfyfyrio

  • yn gallu adfyfyrio ar eu system gwerthoedd eu hunain;
  • yn gallu cwestiynu cysyniadau a damcaniaethau y dônt ar eu traws wrth astudio;
  • yn deall pwysigrwydd a chyfyngiadau damcaniaethau ac ymchwil.

Sgiliau Trosglwyddadwy (1)

  • yn gallu cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig drwy ddefnyddio geirfa arbenigol berthnasol;
  • yn gallu defnyddio TGCh wrth astudio ac mewn sefyllfaoedd priodol eraill;
  • yn gallu dehongli data wedi’i gyflwyno mewn graffiau a thablau ac i gyfuno a chyflwyno data rhifyddol;
  • yn gallu cydweithio’n effeithiol fel rhan o dîm, gan ymgymryd â’r rôl a benodwyd iddynt a chyflawni cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt.

Sgiliau Trosglwyddadwy (2)

  • yn deall eu dulliau a’u strategaethau gorau o ddysgu ac yn gallu eu lleisio a’u mynegi; yn rheoli eu datblygiad i drefnu patrwm gwaith effeithiol gan gynnwys gweithio o fewn terfynau amser;
  • yn gallu prosesu a chyfuno data empeiraidd a damcaniaethol wrth fynd i’r afael â thasgau a llunio camau gweithredu posibl.