BA Addysg Gorfforol

Cynnwys y Cwrs

Capel Curig

Lluniwyd y cwrs hwn ar gyfer myfyrwyr sy'n ystyried y posibilrwydd o ddilyn gyrfa fel athro/athrawes Addysg Gorfforol (cynradd neu uwchradd) yn y dyfodol, neu yrfa ym maes chwaraeon ieuenctid. Mae pob un o'r meysydd ymarferol a ddynodwyd yn y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gorfforol wedi'u cynnwys yn fodylau craidd neu ddewisol.

Adlewyrchir y ffocws cyfredol ar iechyd o fewn addysg gorfforol yn gryf yng nghynnwys cyffredinol y radd. Drwy gydol y cwrs bydd y myfyrwyr yn datblygu diffiniad cyffredinol o Addysg Gorfforol fel proses gydol oes a byddant yn gallu rhoi'r damcaniaethau a ddysgant ar waith mewn lleoliad ymarferol. Bydd cyfle i fynd ar brofiad gwaith i ysgol gynradd neu uwchradd yn yr ail flwyddyn, neu i dreulio semester ar gwrs cyfnewid mewn Prifysgol yn UDA.

Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)

Côd UCAS
CX69

Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg

Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser; Rhan-amser ar gael hefyd

Gofynion Derbyn

Gweler y gofynion derbyn cyffredinol yn y rhannau dechreuol o’r Prosbectws.

Fe'ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.

Cyfleoedd Gyrfa

  • Addysgu - Cynradd neu Uwchradd (yn amodol ar ddilyn cwrs TAR)
  • Datblygu Chwaraeon a Chwaraeon Ieuenctid
  • Gwasanaeth Ieuenctid Cymunedol
  • Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Lluoedd
  • Gradd Uwch ac ymchwil

Adran

Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored

Campws

Campws Caerfyrddin

Modylau Enghreifftiol

  • Addysg Gorfforol, y Plentyn a'r Cwricwlwm
  • Gemau mewn Addysg*
  • Addysgu Hanfodion Nofio
  • Cynhwysiant mewn Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ieuenctid*
  • Addysg Gorfforol ac Iechyd*
  • Profiad Gwaith mewn Ysgol
  • Ffurfiau Dawns
  • Dulliau Ymchwil
  • Gweithgareddau Athletig
  • Caffaeliad Sgiliau
  • Asesu mewn Addysg Gorfforol
  • Agweddau ar Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforol
  • Addysg, Chwaraeon ac Addysg Gorfforol*
  • Pedagogeg Hyfforddi
  • Traethawd hir*

*cyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Nodweddion Allweddol

  • Cwrs unigryw yng Nghymru
  • Cyfleoedd i ennill cymwysterau Cyrff Llywodraethol ychwanegol
  • Mae'r staff yn chwarae rhan flaenllaw ym mhrosiect cenedlaethol PESS - Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol
  • Mae gogwydd ymarferol a galwedigaethol i'r cwrs
  • Gradd berthnasol dros ben i symud ymlaen i'r cyrsiau TAR cynradd ac uwchradd
  • Cyfle i astudio nifer o fodylau trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cyfleusterau chwaraeon gwych ar y campws
  • Traddodiad chwaraeon cryf
  • Campws bychan, cyfeillgar gyda staff brwdfrydig a chefnogol
  • Mae gogwydd ymarferol a galwedigaethol i'r cwrs
  • Mae timau chwaraeon y Brifysgol yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Prydain mewn amrywiaeth eang o chwaraeon, gan gynnwys rygbi, pêl rwyd, pêl droed, hoci, criced, triathlon, traws gwlad, jiwdo a golff. Hefyd mae nifer o glybiau a chymdeithasau chwaraeon eraill megis y clwb Gweithgareddau Awyr Agored, Aerobeg a Syrffio. Mae myfyrwyr yr Ysgol yn cymryd rhan flaenllaw yn trefnu a rhedeg nifer o'r clybiau hyn
  • Canolfan wedi'i hachredu ar gyfer Gwobr Dug Caeredin

Pam astudio yn y Brifysgol hon?

  • Canolfan chwaraeon ac iechyd newydd ar y campws
  • Mae gan y Drindod draddodiad cryf ym maes chwaraeon
  • Campws bychan, cyfeillgar gyda staff brwdfrydig a chefnogol
  • Mae ffocws ymarferol a galwedigaethol i’r cwrs
  • Mae timau chwaraeon y coleg yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Prifysgolion Prydain mewn amrywiaeth eang o chwaraeon. Hefyd mae nifer o glybiau a chymdeithasau chwaraeon eraill megis y clwb Gweithgareddau Awyr Agored, Aerobeg a Syrffio. Mae myfyrwyr yr Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored yn cymryd rhan flaenllaw yn trefnu a rhedeg nifer o’r clybiau hyn.
  • Canolfan wedi’i hachredu ar gyfer Gwobr Dug Caeredin

Manylebau Rhaglen

Prif amcanion addysgol y rhaglen yw:

  • Datblygu diffiniad eang o Addysg Gorfforol fel proses gydol oes;
  • Datblygu safbwyntiau rhyngddisgyblaethol ar Addysg Gorfforol;
  • Cysylltu damcaniaeth ag ymarfer mewn lleoliad ymarferol

Deilliannau’r Rhaglen

Gwybodaeth

  • Dealltwriaeth feirniadol o ddatblygiad gwybodaeth yn eu maes pwnc penodol (Addysg Gorfforol).
  • Dealltwriaeth o’r angen am agwedd amlddisgyblaethol yn ogystal ag agwedd ryngddisgyblaethol tuag at astudio, gan dynnu, fel y bo’n briodol, o gyd-destunau gwasanaethol, ymchwiliol a phroffesiynol.
  • Eu dealltwriaeth o Addysg Gorfforol drwy arferion myfyriol academaidd a phroffesiynol ill dau.
  • Eu galluoedd ymchwilio a datrys problemau drwy ddealltwriaeth feirniadol o ddulliau caffael, dehongli a dadansoddi gwybodaeth sy’n briodol i gyd-destun eu hastudiaethau.
  • Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o’r materion moesol, moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol sy’n tanategu arfer gorau.

Sgiliau Deallusol

  • Ymchwilio ac asesu ffeithiau, damcaniaethau, patrymau, egwyddorion a chysyniadau pwnc benodol.
  • Asesu tystiolaeth yn feirniadol a’i gwerthuso.  
  • Dehongli data a thestunau yn feirniadol.
  • Disgrifio a dadansoddi gwybodaeth.
  • Cymhwyso gwybodaeth at ddatrys problemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
  • Datblygu dadl resymedig a herio rhagdybiaethau.  
  • Derbyn cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain a'u datblygiad proffesiynol parhaus.

Sgiliau Allweddol

  • Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.
  • Sgiliau rhifedd a TGCh.
  • Sgiliau rhyngweithiol a sgiliau grŵp.
  • Sgiliau Datrys Problemau.
  • Y gallu i hunan arfarnu ac ystyried arfer.  
  • Y gallu i gynllunio a rheoli dysgu.

Gwybodaeth Bellach

Cydlynydd Rhaglen: Ceredig Emanuel
Ffon: 01267 676643
Ebost: c.emanuel@ydds.ac.uk