BA Addysg Blynyddoedd
Cynnwys y Cwrs
Mae’r ffordd y mae plant yn dysgu yn faes astudio hynod o ddiddorol. Mae ganddi ei fframwaith ei hunan ynghyd â’i hanghenion addysgol arbennig. Mae trafodaethau cyffrous ar waith, sy’n cael eu gyrru’n rhannol gan y Cyfnod Sylfaen a Dechrau’n Deg yng Nghymru, ynghyd â diddordeb mewn diffinio ansawdd ac addasrwydd mewn addysg blynyddoedd cynnar. Caiff y drafodaeth ei gyrru gan ymroddiad cyffredinol i sicrhau addysg o’r safon uchaf i blant ifainc yng Nghymru a thu hwnt.
Mae cael pobl yn gweithio yn y maes sydd wedi derbyn hyfforddiant gadarn, sy’n wybodus, sy’n meddu ar sgiliau ac sy’n hyderus, yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf i blant. Mae’r cwrs hwn yn ymateb i’r galw am raddedigion i weithio ym mhob agwedd o wasanaethau addysg i blant ifainc.
Mae’r cwrs yn defnyddio dull holistig o drin sut mae’r plentyn ifanc yn dysgu. Fel myfyriwr byddwch yn edrych ar y ffordd y mae’r plentyn yn datblygu, drwy ddamcaniaeth ac ymarferiad, yn hanesyddol a chyfredol. Byddwch, er enghraifft, yn ystyried datblygiadau mewn ymchwil niwro-wyddonol a’i oblygiadau ar bolisi cyhoeddus a darpariaeth safonol. Byddwch yn astudio agweddau o hanes y plentyn, llythrennedd cynnar, teuluoedd drwy’r oesoedd, y syniad o chwarae, iechyd y plentyn. Byddwch hefyd yn astudio cysyniad diwylliannol plentyndod, llenyddiaeth i blant, gender a phlentyndod.
Caiff myfyrwyr gyfle i ymweld â nifer o wahanol leoliadau. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â phrosiect arbenigol ac yn cael profiad mewn lleoliad perthnasol. Bydd graddedigion BA Addysg Blynyddoedd Cynnar sy’n meddu ar y wybodaeth, y gwerthoedd a’r ddealltwriaeth angenrheidiol ar gyfer arfer dda, yn gwneud cyfraniadau arwyddocaol i ragoriaeth broffesiynol mewn addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru a thu hwnt.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Côd UCAS
X311
Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg
Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser. Rhan-amser ar gael hefyd.
Gofynion Derbyn
Gweler cyflwyniad y Prosbectws
Rydym hefyd yn derbyn myfyrwyr â chymwysterau Diploma CACHE/NNEB. Fe gaiff eich cais i’r Drindod ei ystyried ar sail unigol. Rydym yn gwahodd pob ymgeisydd i gyfarfod â ni er mwyn trafod y cwrs a’r brifysgol.
Cyfleoedd Gyrfa
- Gwaith gyda phlant ifainc
- Gwaith cymdeithasol (gyda chymhwyster proffesiynol)
- Gwaith gyda’r gymuned a theuluoedd megis Dechrau’n Deg
- Seicoleg addysgol/ datblygiadol
- Gwaith arbenigol mewn llyfrgell, ee, Tegannau
- Rheolydd Uwch mewn meithrinfa
- Ymchwil addysgol
- Sector gwirfoddol a gwaith cymunedol
Adran
Ysgol Plentyndod CynnarCampws
Campws CaerfyrddinModylau Enghreifftiol
- Cyflwyniad i Ddatblygiad Dynol
- Egwyddorion ac Ymarfer Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y Blynyddoedd Cynnar
- Caffael Iaith Plant
- Camu Allan: Dysgu yn yr Awyr Agored
- Rheoli a Gweithio mewn tîm mewn cyd-destunau Blynyddoedd Cynnar
Nodweddion Allweddol
- Astudiaeth academaidd arbenigol (ee gofal plant, seicoleg, hanes plentyndod, datblygiad iaith y plentyn)
- Lleoliadau ymarferol i wahanol leoedd ee llyfrgelloedd teganau, dosbarthiadau derbyn, ysgolion meithrin, y sector gwirfoddol
- Gweithdai ymarferol ee Creadigrwydd y Plentyn Ifanc, Cerddoriaeth yn ystod Blynyddoedd Cynnar, Babanod a Llyfrau
- Ymweliadau i ganolfannau arbenigol (ee Ysgol Steiner, Canolfan Montessori, lleoliad blynyddoedd cynnar lle defnyddir ieithoedd ethnig)
- Mae gan y Brifysgol dros 150 o flynyddoedd o brofiad ym maes addysg
- Mae’r Brifysgol yn arbenigo mewn addysg ddwyieithog a darpariaeth ddwyieithog
- Mae gennym bartneriaethau gyda dros 250 o ysgolion cynradd, a nifer o ganolfannau addysg yng Nghymru
- Meysydd arbenigol yn cynnwys llythrennedd cynnar, dwyieithrwydd, anghenion addysgol arbennig, chwarae yn yr awyr agored ac ysgolion fforest
- Meithrinfa ar y campws
Pam astudio yn y Brifysgol hon?
- Mae gan y Coleg 150 o flynyddoedd o brofiad ym maes Addysg
- Staff cwrs gydag arbenigedd yn y blynyddoedd cynnar: llythrennedd cynnar, dwyieithrwydd, Ysgolion Coedwig, anghenion arbennig, amddiffyn plant, amryfal ddulliau rhyngwladol
- Profiad ac arbenigedd y Coleg, sydd wedi hen ennill eu plwyf, yn yr iaith Gymraeg a darpariaeth ddwyieithog ynghyd â’r Cwricwlwm Cymreig
- Cysylltiadau agos gydag amrywiaeth o ddarpariaethau yng Ngorllewin Cymru
- Canolfan Adnoddau Addysgol arbenigol
- Meithrinfa wedi’i chodi’n bwrpasol ar y campws – ‘Gamfa Wen’
Manylebau Rhaglen
Prif amcanion addysgol y rhaglen yw:
- Rhoi dealltwriaeth gynyddol i fyfyrwyr o natur integredig a chyfannol gofal ac anghenion dysgu plant ifainc o’r cyfnod cyn geni tan eu bod yn bump oed;
- Rhoi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o bwysigrwydd chwarae yn natblygiad gwybyddol, cymdeithasol, emosiynol ac ieithyddol plant ifainc;
- Rhoi dealltwriaeth drylwyr i fyfyrwyr o faterion ansawdd mewn darpariaeth blynyddoedd cynnar;
- Rhoi dealltwriaeth fras i fyfyrwyr o natur materion addysgol a chymdeithasol yn gyffredinol, a’u harwyddocâd o ran darpariaeth o ansawdd i blant ifainc; Rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr o weithio gyda phlant ifainc a’u teuluoedd mewn amrywiol sefyllfaoedd.
Deilliannau’r Rhaglen
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- ymwybyddiaeth o’r gwerthoedd a’r egwyddorion sylfaenol sy’n berthnasol i addysg plant ifainc;
- gwybodaeth o’r amrywiaeth o ddysgwyr a chymhlethdodau’r broses addysgol;
- ymwybyddiaeth o’r gwahanol gyd-destunau y gall dysgu ddigwydd ynddynt a’r ystod o rolau gwahanol i gyfranogion yn y broses ddysgu;
- peth dealltwriaeth o strwythurau cymdeithasol a chyfundrefnol a dibenion systemau addysgol;
- y gallu i ddewis ystod o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd perthnasol, gan gynnwys rhai damcaniaethol a thystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil, er mwyn ymestyn eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth;
Defnyddio
- y gallu sylfaenol i ddadansoddi cysyniadau, damcaniaethau a materion polisi addysgol mewn ffordd systematig;
- gallu cynyddol i adnabod ac ystyried cysylltiadau a bylchau posib rhwng pob agwedd o’u gwybodaeth bynciol a’u defnydd mewn cyd-destunau addysgol;
- y gallu i ymaddasu i egwyddorion a dealltwriaethau newydd, gan gynnwys awgrymu ffyrdd ymlaen a newidiadau dichonol i arferion;
Ystyried
- y gallu sylfaenol i ystyried eu gwerthoedd eu hunain;
- y gallu i godi cwestiynau ynglŷn â’r cysyniadau a’r damcaniaethau maent wedi cyfarfod â hwy yn eu hastudiaethau;
- dealltwriaeth sylfaenol o arwyddocâd a chyfyngiadau damcaniaethau ac ymchwil;
Sgiliau Trosglwyddadwy (1)
- y gallu i gyfathrebu ar lafar ac ar bapur gan ddefnyddio geirfa arbenigol berthnasol;
- y gallu i ddefnyddio TGCh ar gyfer eu hastudiaethau a sefyllfaoedd priodol eraill;
- y gallu i ddehongli data sydd wedi’i gyflwyno ar ffurf graff neu dabl yn ogystal â’r gallu i gasglu a chyflwyno data rhifiadol;
- y gallu i weithio yn effeithiol fel rhan o dîm, gan gyflawni’r rolau a ddyrannwyd a’r cyfrifoldebau y cytunwyd arnynt;
Sgiliau Trosglwyddadwy (2)
- y ddealltwriaeth a’r gallu i fynegi’r dulliau dysgu a’r strategaethau sy’n well ganddynt a’r gallu i reoli eu datblygiad er mwyn trefnu patrwm gwaith effeithiol, gan gynnwys gweithio yn ôl terfynau amser;
- y gallu i brosesu a chyfosod data empirig a damcaniaethol wrth wynebu tasgau a llunio gweithredoedd posib.
Gwybodaeth Bellach
- Tyst AU Rheolaeth Meithrinfeydd
- Tyst AU Ymarfer Cymraeg a Dwyieithrwydd yn y Blynyddoedd Cynnar
- Dip ol-radd Cyfnod Sylfaen
- MA Addysg Blynyddoedd Cynnar


