BA Addysg Awyr Agored
Cynnwys y Cwrs

Mae'r dull amlddisgyblaethol o gyflwyno Addysg Awyr Agored yn manteisio ar theori addysg, arweinyddiaeth ac amgylcheddol i archwilio potensial yr amgylchedd naturiol i gynnig ffordd wahanol o ddysgu sy'n seiliedig ar brofiad.
Mae gan Addysg Awyr Agored lawer i'w gynnig fel ffordd weithredol, gynhwysol a naturiol o ddysgu sy'n datblygu perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr unigolyn, grwˆp a'r amgylchedd.
Mae mwy a mwy o gyfleoedd gwaith ar gael mewn addysg, hamdden, datblygu cymunedol, twristiaeth antur a chynaliadwyedd amgylcheddol. Fe'i cydnabyddir yn ddull gwerthfawr o ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy sy'n berthnasol i holl sectorau'r gweithle yn yr 21ain ganrif.
Cymhwyster
BA (Anrhydedd Sengl)
Côd UCAS
X390
Dewis Iaith
Saesneg
Cymraeg
Hyd y Cwrs
3 blynedd llawn-amser; Rhan-amser ar gael hefyd
Gofynion Derbyn
Gweler cyflwyniad y Prosbectws
Fe'ch gwahoddir i ymweld â'r Brifysgol i drafod y cwrs. Mae mynediad yn dibynnu ar deilyngdod unigol yr ymgeisydd.
Cyfleoedd Gyrfa
- Hyfforddwr/Hwylusydd Awyr Agored
- Gweithiwr Datblygu Cymunedol Awyr Agored
- Hyfforddwr Awyr Agored/Antur Llawrydd//Eco-Dwristiaeth
- Sefydliadau Amgylcheddol a Chadwraeth
- Addysgu (yn amodol ar TAR)
- Gwasanaethau Awdurdodau Lleol - Swyddog Gweithgareddau Awyr Agored
- Y Lluoedd Arfog a'r Heddlu
Adran
Ysgol Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr AgoredCampws
Campws CaerfyrddinModylau Enghreifftiol
- Athroniaeth a Dulliau Addysg Awyr Agored
- Theori ac ymarfer hwyluso
- Sgiliau Arweinyddiaeth yn yr Awyr Agored (crefft mynydda, dringo creigiau, caiacio/canwˆio, beicio mynydd, arfordira)
- Yr Amgylchedd Naturiol a Systemau-Eco
- O Ddesgiau i Wâliau (mynd tu allan i'r ystafell ddosbarth)
- Effeithiau Hamdden Awyr Agored
- Addysg Awyr Agored yn y Gymuned
- Lleoliad Proffesiynol (30 diwrnod)
- Hyfforddiant a Datblygiad Personol
- Dulliau Ymchwil ar gyfer gwerthuso dysgu awyr agored
- Astudiaethau Alldeithiau
- Tirwedd a Hamdden yng Nghymru
- Agweddau Naws am Le at yr Amgylchedd Awyr Agored
- Materion Cyfoes Addysg Awyr Agored
- Traethawd hir
Nodweddion Allweddol
- Modylau perfformiad ymarferol ym Mlynyddoedd 1 a 2, gan gynnwys modwl alldaith annibynnol ym mlwyddyn 2
- Cyfleoedd i ennill cymwysterau Corff Llywodraethu Cenedlaethol
- Profiad gwaith mewn nifer o leoliadau addysg awyr agored gwahanol
- Cwrs heriol ar gyfer twf a datblygiad personol
- Gogwydd ymarferol a galwedigaethol i'r cwrs
- Campws bach a chyfeillgar gyda mynediad hwylus i amrywiaeth eang o gyfleoedd ardderchog ar gyfer hamdden yn yr awyr agored
- Cysylltiadau da â llawer o sefydliadau masnachol a chyhoeddus ym maes addysg awyr agored
- Cyfleusterau ac offer ardderchog
- Staff profiadol iawn â chymwysterau helaeth gyda chymarebau staff/myfyrwyr da
- Cyfleoedd i astudio yn UDA/Norwy
- Mae alldeithiau tramor diweddar yn cynnwys: Nepal, Norwy, Sardinia, Sbaen, Moroco a Gwlad Groeg
Pam astudio yn y Brifysgol hon?
- Campws bach a chyfeillgar gyda mynediad hwylus i amrywiaeth eang o gyfleoedd ardderchog ar gyfer hamdden yn yr awyr agored
- Cysylltiadau da â llawer o sefydliadau masnachol a chyhoeddus ym maes addysg awyr agored
- Cyfleusterau ac offer ardderchog
- Staff profiadol iawn â chymwysterau helaeth gyda chymarebau staff/myfyrwyr da
- Cyfleoedd i astudio yn yr UDA ac Ewrop
- Canolfan achrededig Gwobr Dug Caeredin
Manylebau Rhaglen
Dyma brif amcanion addysgol y rhaglen:
- Creu graddedigion adfyfyriol â gallu academaidd helaeth.
- Datblygu’r wybodaeth graidd a’r sgiliau allweddol mae’u hangen ar raddedigion sy’n gweithio ym myd addysg awyr agored.
- Datblygu sgiliau trosglwyddadwy cyffredinol y myfyriwr sy’n berthnasol i gyfleoedd gyrfa yn gysylltiedig ag addysg awyr agored, a rhai mwy eang.
Deilliannau’r Rhaglen
Gwybodaeth a dealltwriaeth
- Dadansoddi ac adfyfyrio ar yr amgylchedd lle mae gweithgareddau hamdden yn digwydd.
- Esbonio patrwm a natur ddeinamig amrywiaeth ofodol ym maes ffisegol prosesau arwyneb y Ddaear, dŵr, tirffurfiau, hinsawdd, llystyfiant a phriddoedd.
- Deall achosion dynol pethau sy’n effeithio ar yr amgylchedd a’u canlyniadau.
- Adfyfyrio’n feirniadol ar rôl y sefydliadau a strwythurau hynny sydd â chyfrifoldeb am hyrwyddo addysg awyr agored neu am hyfforddi ymarferwyr addysg awyr agored.
- Arddangos y sgiliau sy’n angenrheidiol i gyflwyno profiad addysg awyr agored ac i adfyfyrio arno gyda grŵp penodol.
- Dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o’r materion moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol sy’n tanategu arfer gorau mewn addysg awyr agored.
- Arddangos gwybodaeth am ymatebion dynol i broblemau amgylcheddol: asesu, rheoli a pholisi effeithiau amgylcheddol; rheoli yn seiliedig ar risg; yr egwyddor ragofalus; cyfyngu ar dwf; cynaladwyedd a datblygu cynaliadwy.
Sgiliau Gwybyddol
- Ymchwilio ac asesu ffeithiau, damcaniaethau, patrymau, egwyddorion a chysyniadau pwnc-benodol.
- Asesu data a thestunau yn feirniadol a’u gwerthuso.
- Disgrifio a dadansoddi gwybodaeth.
- Cymhwyso gwybodaeth at ddatrys problemau cyfarwydd ac anghyfarwydd.
- Datblygu dadl resymedig a herio rhagdybiaethau.
- Arddangos gwybodaeth gyfunol am gwmpas ac ehangder y pwnc (addysg awyr agored).
- Derbyn cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain a'u datblygiad proffesiynol parhaus.
Sgiliau Ymarferol
- Cynllunio, dylunio a gweithredu gweithgareddau ymarferol gan ddefnyddio technegau a gweithdrefnau priodol.
- Ymgymryd â gwaith maes mewn dull diogel a chyfrifol, gan roi sylw dyledus i asesu risg, hawliau mynediad, rheoliadau iechyd a diogelwch perthnasol, a sensitifrwydd i’r effaith ar yr amgylchedd a rhanddeiliaid.
- Cynllunio, dylunio, gweithredu a chyfathrebu darn estynedig o waith deallusol annibynnol gan ddefnyddio cyfryngau priodol.
- Adnabod ac ymateb i faterion moesol, moesegol a diogelwch sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, yn cynnwys deddfwriaeth a chodau ymddygiad proffesiynol perthnasol.
- Arddangos sgiliau a gwybodaeth reoli sy’n berthnasol i’r alwedigaeth trwy brofi arfer proffesiynol.
- Gwerthfawrogi materion dethol samplau, cywirdeb, trachywirdeb ac ansicrwydd yn ystod casglu, cofnodi a dadansoddi data yn y maes.
- Arddangos gallu i baratoi, prosesu, dehongli a chyflwyno data, gan ddefnyddio technegau a phecynnau ansoddol a meintiol priodol.
- Defnyddio’r rhyngrwyd fel dull cyfathrebu a ffynhonnell gwybodaeth.
Sgiliau Allweddol
- Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno.
- Sgiliau rhifedd a TGCh.
- Sgiliau rhyngweithiol a sgiliau grŵp.
- Sgiliau datrys problemau.
- Y gallu i hunan arfarnu ac adfyfyrio ar arfer.
- Y gallu i gynllunio a rheoli dysgu.
- Dynodi a gweithio tuag at dargedau datblygiad personol, academaidd ac o ran gyrfa.
Gwybodaeth Bellach
Cydlynydd Rhaglen: Andy Williams
Ffon: 01267 666647
Ebost: a.williams@ydds.ac.uk

