Mae'r Brifysgol yn cynnig profiadau dysgu ac addysgu rhagorol ar lefel israddedig ac ôl-raddedig

myfyrwyr graddio tsd Mae’r Brifysgol yn arbenigo ym meysydd addysg, y dyniaethau, y celfyddydau creadigol, diwylliannol a pherfformio, yn ogystal â busnes, TG, cynhwysiant cymdeithasol ac iechyd.

Cynhelir yr addysgu mewn dosbarthiadau bach, mae staff yn flaengar iawn yn eu pynciau, ac mae’r amgylchedd dysgu yn gyfeillgar ac yn gefnogol.

Mae cyfleoedd i astudio dramor ar gael ym mhob maes pwnc ac mae llawer o gyrsiau’n cynnig lleoliadau a phrofiad gwaith.

Gellir ymgymryd â graddau ymchwil naill ai drwy astudiaeth breswyl, astudio o bell neu gyfuniad o’r ddau. 

Academyddion o fri rhyngwladol sy’n arolygu gwaith ymchwil ac maent â phrofiad o arwain myfyrwyr ymchwil hyd at gwblhau’u graddau.

Mae’r ddau gampws wedi’u gosod y naill a’r llall mewn lleoliadau hardd, a’r holl gyfleusterau yn cynnwys Llety, llyfrgelloedd ac ardaloedd cymdeithasol o fewn pellter cerdded hawdd.

Yr hen adeilad yn LlambedCyrsiau Israddedig

Cyrsiau Ôl-raddedig

Cyrsiau Ymchwil Ôl-raddedig

Graddau Sylfaenol

Cyrsiau Rhan-amser

Dysgu o Bell

Lefelau'r Cymwysterau

Dosbarth o fyfyrwyr

Mae'r strwythurau a’r rheoliadau ansawdd academaidd a sefydlwyd gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn dilyn uno Coleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan wedi cael eu cydnabod gan asiantaethau allanol fel bod ‘r safon uchaf.

Gall myfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn dilyn rhaglenni yn y Drindod Dewi Sant fod yn gwbl hyderus o ansawdd academaidd a safonau eu graddau.