Chwaraeon - Campws Llambed

Gem Rygbi yn erbyn UWIC

Mae gan Lambed draddodiad hir ym myd chwaraeon oherwydd, yn ôl pob sôn, aelod o staff Coleg Dewi Sant wnaeth ddod â rygbi i Gymru, ac roedd Clwb Rygbi Tref Llambed yn un o sefydlwyr Undeb Rygbi Cymru yn 1881.

Mae rygbi’n cael ei chwarae yma o hyd, ond ochr yn ochr ag amryw o chwaraeon a gweithgareddau gwahanol, na fyddai neb o’r adeg honno yn adnabod llawer ohonyn nhw.  Mae chwaraeon sy’n boblogaidd ymysg y myfyrwyr yn cynnwys pêl-droed, hoci, cleddyfaeth, saethyddiaeth, crefft ymladd megis Jiu-Jitsu a Tae-Kwondo a gweithgareddau awyr agored.

Mae cyfleusterau chwaraeon dan do yn cynnwys

Myfyrwyr yn chwarae hociNeuadd chwaraeon amlbwrpas gyda chyrtiau badminton

Cwrt sboncen

Stiwdio ddawns

Campfa gydag offer codi pwysau. 

At ddefnydd awyr agored, mae gennyf

Gyrtiau tenis

Cae criced

Caeau pêl-droed a rygbi.

Yn ystod sesiynau i fyfyrwyr mae mynediad yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr i’r pwll nofio lleol, neu gallant ei ddefnyddio fel aelod o’r cyhoedd ar adegau eraill. Hefyd, mae’r ganolfan hamdden fodern gerllaw yn darparu ystafell ffitrwydd a neuadd chwaraeon lle trefnir amrywiaeth eang o ddosbarthiadau a gweithgareddau mwy anffurfiol.

I weithgareddau awyr agored llai ffurfiol, mae dewis helaeth ar gael i fyfyrwyr. Mae Parciau Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog, Eryri ac Arfordir Penfro o fewn pellter gyrru hawdd, ac mae cyfleoedd ardderchog ar gyfer dringo yn y ddau olaf. Mae Mynyddoedd Cambria yn agos iawn (fe’u gelwir weithiau’n “Barc Cenedlaethol angof” Prydain) gyda chymoedd a cheunentydd coediog dwfn, wedi’u gwasgaru rhwng ardaloedd enfawr o weundir di-annedd a syfrdanol. Darpara’r mynyddoedd, ynghyd ag arfordir cyfagos Bae Ceredigion, gyfle heb ei ail ar gyfer cerdded, canŵio, hwylio, syrffio, ogofa neu ddianc i’r llonyddwch.   Mae gweithgareddau poblogaidd eraill yn cynnwys marchogaeth, beiciau mynydd a gwylio bywyd gwyllt.