Canolfan Alister Hardy er Ymchwilio i Brofiadau Crefyddol

Ydych chi erioed wedi cael profiad ysbrydol neu grefyddol neu wedi teimlo presenoldeb neu bŵer, pa un a ydych yn ei alw’n Dduw ai peidio, sy’n wahanol i’ch bywyd o ddydd i ddydd?

Ydy profiadau o’r fath yn ennyn eich chwilfrydedd – i wybod yr hyn ydynt, a yw pobl yn eu cael, a’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym o bosibl? Hoffech chi gyfathrebu ag eraill sy’n meddwl am yr un peth – a /neu gyfrannu’ch profiad eich hun i'r adroddiadau cynyddol am y profiadau hyn?

Oes gennych chi ddiddordeb?  Os felly, daliwch i ddarllen, mae’r dudalen hon ar eich cyfer chi - neu cysylltwch â ni am lyfryn a rhagor o wybodaeth.

Y Cyfarwyddwyr:
Dr Greg Barker
Dr Bettina Schmidt
Ms Sally Wilkinson

Y Noddwyr:
Bronwen, Is-iarlles Astor
Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama
Ei Arucheledd y Cardinal Cormac Murphy-OConnor
Yr Athro Seyyed Hossein Nasr
Y Parch. Dr John A. Newton
Ei Arucheledd yr Archesgob, Koken Otani
Syr Jonathon Porritt
Yr Arglwydd Rees-Mogg
Y Prif Rabi yr Athro Jonathan Sacks
Swami Chidanand Saraswati
Y Parchedicaf Rowan Williams, Archesgob Caer-gaint
Right. Revd. Wyn Evans, Bishop of St. Davids