Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
Mae gan y Drindod Dewi Sant draddodiad cadarn o ddarparu bwrsariaethau wedi'u targedu. Rydym yn credu na ddylai ffioedd fod yn rhwystr i fyfyrwyr sy'n ystyried addysg uwch ac rydym wedi ymrwymo i ddenu a chefnogi’r myfyrwyr gorau.
Gyda hyn mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i gefnogi myfyrwyr talentog o bob cefndir. Os oes gennych y ddawn a’r gallu, rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gennych y cyfle i astudio yma beth bynnag yw eich amgylchiadau ariannol.
Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Academaidd hyd at £ 1000. Gwobrwyir i’r myfyrwyr â’r sgôr UCAS uchaf sy’n cychwyn ar gwrs israddedig llawn-amser yn y Drindod Dewi Sant.
Mae'r Ysgoloriaethau Adrannol gwerth hyd at £ 1000. Dyfernir ar sail perfformiad cyffredinol myfyrwyr – ymdrech / presenoldeb / cyfraniad / safon gwaith / gweithgareddau allgyrsiol / brwdfrydedd.
Maent ar gael i fyfyrwyr yn y meysydd canlynol academaidd:
- Archaeoleg, Hanes ac Anthropoleg
- Busnes
- Clasuron
- Celfyddydau Creadigol
- Astudiaethau Diwylliannol
- Plentyndod Cynnar
- Addysg a Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon
- Cyfiawnder Cymdeithasol a Chynhwysiant
- Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Awyr Agored
- Celfyddydau Perfformio
- Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr i astudio rhan neu'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant wneud hynny.
Mae’r Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg / Dwyieithog gwerth hyd at £ 600 neu £50 am bob 10 credyd a gwblheir yn llwyddiannus trwy gyfrwng y Gymraeg / yn ddwyieithog. Yn ogystal, mae’r Coleg Cymraeg yn cynnig ysgoloriaethau o hyd at £ 1,000 y flwyddyn ar gyfer astudio eich gradd trwy gyfrwng y Gymraeg (am ragor o wybodaeth, ewch i www.mantais.ac.uk).
Gwobrwyir Bwrsariaeth Y Drindod Dewi Sant hyd at £1000 i fyfyrwyr llawn-amser o deuluoedd incwm isel.
Mae’r Bwrsariaethau Preswyl hyd at £1000 ar agor i bob myfyriwr sy’n talu ffioedd llawn ac sydd wedi dynodi’r Drindod Dewi Sant fel dewis cyntaf.
Bwrsariaethau Addysg Bellach i Addysg Uwch
Mae’r nifer o fwrsariaethau gwerth hyd at £500 ar gael i fyfyrwyr sy’n symud ymlaen o AB i AU.
Rhaglenni Profiad Gwaith
Ar ôl i chi ddechrau ar eich cwrs, gallwch wneud cais am fwrsari i'ch galluogi i weithio yn ystod eich gwyliau haf. Gallwch gael hyd at £ 1,000 i weithio mewn cwmni neu sefydliad sy'n gysylltiedig â'ch astudiaethau gradd - gan roi hwb ychwanegol i’ch CV !
Cyfleusterau meithrinfa
Gall hyd at £700 fod ar gael i chi ei wario ar gyfleusterau meithrin yn Meithrinfeydd y Brifysgol - Y Gamfa Wen a Gwdihws. Mae'r bwrsariaeth yn destun prawf modd.
Talebau Addysgol
Mae hyd at £200 y person ar gael i fyfyrwyr sydd ag angen cymorth gyda chostau teithio / astudio dramor / offer ac ati yn gysylltiedig â’r cwrs
Myfyrwyr rhyngwladol
Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wobrau ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol gan gynnwys ysgoloriaethau, profiad gwaith, a chronfa caledi sy'n darparu cymorth i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n cael anawsterau ariannol.
Cliciwch i Ysgoloriaethau Myfyrwyr rhyngwladol a Bwrsariaethau
Ysgoloriaethau au a bwrsariau 2012/2013
Ffurfleni Cais
Myfyrwyr Is-Raddedig Llawn Amser
Ysgoloriaeth Adrannol (pdf)
Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg Neu Dwyieithog (pdf)
Ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ysgoloriaethau Gradd Meistr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Bwrsari AB/AU (pdf)
Swydd Preswyl (pdf)
Bwrsari Meithrinfa (pdf)
Bwrsari Llety (pdf)
Talebau Addysgol (pdf)
Myfyrwyr Is-Raddedig Rhan Amser
Bwrsari Rhan-amser (pdf)
Ysgoloriaeth Cyfrwng Cymraeg Neu Dwyieithog (Rhan-amser) (pdf)
Myfyrwyr Ol-Raddedig
Bwrsari Astudiaethau Ol-radd (pdf)
Myfyrwyr rhan-amser
Bwrsari Rhan-amser (pdf)
Myfyrwyr Rhyngwladol
International Postgraduate Study Scholarship (pdf)
Gwobr Dilyniant Cwrs Meistr
International Masters Progession Award (pdf)
Ysgoloriaeth Astudiaethau Rhyngwladol
International Scholarship (pdf)
Rhaglenni Profiad Gwaith
International Internship (pdf)
Sut ydw i’n gwneud cais?
Mae ffurflenni cais ar gael gan:
Campws Caerfyrddin
Swyddfa Ysgoloriaethau
Gwasanaethau Myfyrwyr
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Campws Caerfyrddin
SA31 3EP
Ffôn: 01267 676830
E-bost:
ysgoloriaethau
@ydrindoddewisant.ac.uk
Gwadiad: Mae’r wybodaeth yma’n gywir ar adeg ei chyhoeddi a gallai newid.

