Mae’r Brifysgol yn cynnig ei harbenigedd, ei hadnoddau a’i gwasanaethau i fentrau a sefydliadau busnes

Rydym yn cynnig ystod eang o hyfforddiant mewn sgiliau lefel uwch a datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o gwricwlwm craidd y Brifysgol.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau a hyfforddiant sydd wedi eu teilwra ar gyfer eich anghenion a’u cynnal i’ch staff yn y gweithle.
Mae llawer o’n tîm academaidd yn arbenigwyr yn eu maes astudio. Gallwch fanteisio ar eu harbenigedd ar ffurf gwasanaeth ymgynghori a gallai hwn fod o gymorth i chi wrth wynebu heriau ar hyn o bryd a dod o hyd i gyfleoedd newydd ar gyfer eich busnes.

Rydym yn cynnig cyfle i chi fanteisio ar rwydwaith o arbenigedd a gwybodaeth trwy ystod eang o weithgareddau a ariennir. Trefnir bod llawer o'r rhaglenni hyn ar gael i'ch sefydliad naill ai'n ddi-dâl neu am bris sylweddol is trwy gymorth yr arian a gawn i ddarparu'r rhaglenni.
Gellir manteisio ar bob un o’r gwasanaethau hyn trwy Swyddfa Ymchwil a Datblygu’r Brifysgol. Cysylltwch â ni: bydd aelod o’r tîm yn eich helpu i ddod o hyd i'r ffordd orau o fanteisio ar yr adnoddau ardderchog hyn.
Gall y gymuned ehangach hefyd fanteisio ar gyfleusterau a gwasanaethau cyfryngol y Brifysgol. Dewch i wybod rhagor am yr hyn sydd gennym i’w gynnig:

